Dr Mohsen Ali Asgari

Swyddog Ymchwil, Biomedical Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 1562
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Graddiodd Dr Mohsen Ali Asgari gyda gradd MSc mewn Cemeg Ddadansoddol yn 2011. Yn ystod ei astudiaethau ôl-raddedig, bu'n gweithio ar brosiect ar amsugno a mesur Atenolol mewn samplau fferyllol a biolegol trwy wasgnodi moleciwlaidd, gan ddefnyddio gleiniau gydbolymer newydd fel matrics ymarferol. Yn 2020, cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Cemeg Nano Fferyllol yn y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Feddygol (IMSaT) ym Mhrifysgol Keele. Roedd teitl ei draethawd ymchwil ynghylch y defnydd o nanoronynnau haearn ocsid-arian hybrid ar gyfer cyffuriau sy’n rhyddhau mewn modd thermo-ymatebol i drin canser y pancreas, dan oruchwyliaeth Dr Clare Hoskins a'r Dr Anthony Curtis. Gweithiodd ar brosiect i brofi nodweddion nanoronynnau gwag newydd, effaith cytotocsig, a sut mae’r nanoronynnau yn rhyngweithio yn y celloedd. Cynhaliodd arbrofion helaeth ar feithrin celloedd mewn ystod eang o brofion i greu proffil cytotocsig llawn o’r  gronynnau, a chaniatáu gwell dealltwriaeth o sut maent yn rhyngweithio â chelloedd.

Yn 2021, ehangodd Dr Ali Asgari ei sgiliau fel Ymchwilydd Ôl-Ddoethurol, o dan oruchwyliaeth yr Athro William Griffiths a'r Athro Yuqin Wang, gan symud ymlaen i ddatblygu a defnyddio technegau ac offeryniaeth sbectrometrig màs newydd ym maes niwrofioleg, gan edrych ar lipidomeg, yn enwedig metaboledd colesterol (marcwyr sterol ac ocsisterol), a'i berthynas ag iechyd a chlefydau dynol, yn enwedig clefydau niwroddirywiol. Mae’r prosiect presennol, a ariennir gan CHDI, yn edrych ar Sterols fe Biofarcwyr Lipid ar gyfer clefyd Huntington. Mae'n gweithio ar garfan fawr o samplau plasma a hylif yr ymennydd dynol i ddod o hyd i'r biofarcwyr.

Mae diddordebau ymchwil Dr Ali Asgari mewn lipidomeg, biosynthesis asid bustl a biocemeg lipidau, yn enwedig mewn perthynas â chlefyd niwroddirywiol a'r system imiwnedd. Mae Dr Ali Asgari yn aelod o Gymdeithas Sbectrometreg Màs Prydain a'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Meysydd Arbenigedd

  • Metabolaeth Colesterol
  • Ocsisterolau
  • Asidau Bustl
  • Rhagsylweddion colesterol
  • Sbectrometreg Màs Cromatograffeg Hylif
  • Clefydau niwroddirywiol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae diddordebau ymchwil Dr Ali Asgari mewn lipidomeg, biosynthesis asid bustl a biocemeg lipidau, yn enwedig mewn perthynas â chlefyd niwroddirywiol a'r system imiwnedd.

Ymchwil Cydweithrediadau