ILS1
Dr Miranda Walker

Dr Miranda Walker

Uwch-ddarlithydd Er Anrhydedd, Medicine, Health and Life Science - Faculty

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606148
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Dr Miranda Walker yn Uwch-ddarlithydd yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae hi'n cyhoeddi ei holl waith academaidd dan ei henw cyn priodi: Miranda M. A. Whitten.  

Cafodd Dr Walker ei hyfforddi ym meysydd imiwnoleg pryfed ac entomoleg feddygol. Nodau ei hymchwil yw gwella iechyd, bywoliaethau a diogelwch bwyd drwy ddatblygu technoleg ddiogel a fydd (i) yn atal pryfed rhag ymledu clefydau, ac (ii) yn rheoli achosion pan fo pryfed yn blâu. Mae gwaith Miranda yn canolbwyntio'n bennaf ar glefydau trofannol a gludir gan bryfed sydd wedi cael eu hesgeuluso megis clefyd Chagas, a phlâu amaethyddol mawr megis thripsod a chwilod tatws Colorado.  Mae gan Dr Walker hefyd ddiddordeb ym mharasitiaid a microbau pryfed mewn rhaglenni meithrin pryfed torfol, gan gynnwys y rhai sydd i'w bwyta gan bobl.    

Mae Miranda yn un o gyn-ymchwilwyr Crwsibl Cymru ac fe'i hetholwyd yn Gymrawd am Oes gan y Gymdeithas Frenhinol er hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach. Mae ei gwaith yn gymhwysol ac yn rhyngddisgyblaethol ac mae hi'n croesawu cyfleoedd newydd i gydweithredu.  

Meysydd Arbenigedd

  • Entomoleg Gymhwysol a Meddygol
  • Ymyrraeth RNA (RNAi)
  • Symbiosis
  • Microbioleg
  • Parasitoleg
  • Imiwnoleg pryfed
  • Rheoli plâu ac amaethyddiaeth
  • Bioleg foleciwlaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Miranda yn un o Gymrodorion yr Academi Addysg Uwch ac mae'n darlithio ar y rhaglenni gradd mewn Geneteg, Biocemeg a’r Gwyddorau Meddygol Cymhwysol. Mae hi'n addysgu neu'n cydlynu gweithgareddau addysgu ar amrywiaeth o bynciau, yn fwyaf nodedig glefydau heintus, parasitoleg a sgiliau genetegwyr (modiwlau PM-004, PM-120, PM-250, PM304). Mae hi'n goruchwylio prosiect myfyrwyr ôl-raddedig sy'n ymchwilio i ymyrraeth RNA â phryfed a pharasitoleg. 

Ymchwil Cydweithrediadau