Trosolwg
Athro Epidemioleg yw Dr Lucy Griffiths. Mae ganddi radd israddedig mewn Seicoleg Gymdeithasol (BSc), a graddau ôl-raddedig mewn Gwyddor Iechyd ac Ymarfer Corff (MSc) ac Epidemioleg (MSc). Cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Bryste cyn treulio 13 blynedd fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yng Ngholeg y Brifysgol Llundain. Ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2018.
Lucy yw Cyd-gyfarwyddwr ac Arweinydd Ymchwil Academaidd Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru . Mae hi hefyd yn darparu arweinyddiaeth strategol ar draws portffolio o fuddsoddiadau ymchwil mawr yn y DU. Mae ganddi hanes helaeth o sicrhau, cyfarwyddo a chyflwyno rhaglenni ymchwil data mawr sy'n berthnasol i bolisi, a ariennir gan sefydliadau megis y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Cyngor Ymchwil Meddygol, Sefydliad Nuffield, Ymddiriedolaeth Wellcome, ADR UK ac Ymchwil Data Iechyd y DU,
Mae hi'n arwain ymchwil gydweithredol, ryngddisgyblaethol ac yn rhan weithredol o hyfforddiant ac adeiladu capasiti ar draws y gymuned academaidd. Mae Lucy'n gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y llywodraeth, gan gefnogi'r defnydd effeithiol o dystiolaeth data ac ymchwil wrth ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau.