Laura Cowley

Dr Laura Cowley

Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data, Health Data Science

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
307
Trydydd Llawr
Yr Adeilad Gwyddor Data
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Laura Cowley yn Swyddog Ymchwil ac yn Wyddonydd Data â chefndir a diddordeb ym meysydd ymchwil iechyd plant, gofal cymdeithasol a chyfiawnder teuluol. Mae gan Laura BSc (Anrh.) mewn Seicoleg o Brifysgol Lerpwl ac MSc â rhagoriaeth mewn Niwroseicoleg o Brifysgol Bryste. Cwblhaodd ei PhD yn Adran Meddygaeth y Boblogaeth, Prifysgol Caerdydd, yn 2019. Wedi hynny, bu Laura yn gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil mewn perthynas ag iechyd plant ym Mhrifysgol Caerdydd a bu'n gweithio hefyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru lle cafodd hi brofiad o ddefnyddio data cysylltiedig i gyflawni ymchwil a daflodd oleuni newydd ar ffyrdd o wella iechyd a lles plant yng Nghymru.

Mae ymchwil bresennol Laura yn canolbwyntio ar ddefnyddio data gweinyddol a modelu ystadegol i ateb amrywiaeth eang o gwestiynau ymchwil ym maes canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol plant a theuluoedd yng Nghymru a’r tu hwnt. Ar hyn o bryd mae hi'n ymgymryd â Chymrodoriaeth Gofal Cymdeithasol am dair blynedd a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Laura yn aelod o nifer o rwydweithiau ymchwil, gan gynnwys ISPCAN (y Gymdeithas Ryngwladol dros Atal Cam-drin ac Esgeuluso Plant; DARSIG (Grŵp Diddordeb Arbennig Penderfyniadau, Asesu a Risg Cymdeithas Ymchwil Gwaith Cymdeithasol Ewrop); Y Rhwydwaith Ymchwil Rhyngwladol i Systemau Diogelu Babanod a Phlant; a'r Rhwydwaith Anghydraddoldebau Lles Plant.

Meysydd Arbenigedd

  • Cam-drin plant
  • Trawma i'r pen o ganlyniad i gamdriniaeth
  • Iechyd a gofal cymdeithasol plant
  • Iechyd cyhoeddus
  • Gwyddor data
  • Cysylltedd data
  • Modelu rhagfynegi clinigol
  • Epidemioleg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae gan Laura brofiad o baratoi deunyddiau addysgu, llunio cwestiynau arholiad, darlithio, hwyluso sesiynau rhaglennu ystadegol ymarferol a mentora a goruchwylio myfyrwyr PhD.

Mae diddordebau addysgu Laura yn cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol plant, iechyd cyhoeddus, delweddu data, dulliau ymchwil, ystadegau ac epidemioleg.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau