Adeilad Grove
Kamila Hawthorne

Yr Athro Kamila Hawthorne

Yr Athro A Phennaeth Meddygaeth Mynediad i Raddedigion MB Bch, Medicine
Swyddfa Academaidd - 312
Ail lawr
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae’r Athro Kamila Hawthorne wedi bod yn Feddyg Teulu yn Ne Cymru ers 24 mlynedd, ar ôl cymhwyso’n wreiddiol o Brifysgol Rhydychen ym 1984, a chwblhau ei hyfforddiant Meddyg Teulu yn Nottingham ym 1988.

Mae hi'n addysgwr meddygol academaidd, yn Bennaeth y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi hefyd yn gyn Is-Gadeirydd (Datblygiad Proffesiynol) yn yr RCGP, yn Aelod Etholedig Cenedlaethol o Gyngor yr RCGP ac ar Bwyllgor Moeseg yr RCGP, yn Archwiliwr MRCGP ac yn Gomisiynydd Bevan.

Mae gan yr Athro Hawthorne ddiddordeb gwirioneddol yn atebolrwydd cymdeithasol ysgolion meddygol, ac mae’n credu y dylem fod yn hyfforddi clinigwyr rhagorol sy’n deall pobl, a’r cymunedau yr ydym oll yn byw ynddynt. Mae hi hefyd yn credu y dylai cwricwla cyfoes gynnwys sgiliau Arwain a Rheoli, Technoleg Ddigidol a Chyfathrebu, ac ‘Un Iechyd mewn cymuned fyd-eang’. Mae ganddi arbenigedd mewn dylunio cwricwla meddygol ‘sy’n wynebu’r gymuned’.

Mae ei diddordebau gwaith ymchwil a chlinigol wedi bod mewn anghydraddoldebau iechyd a mynediad at wasanaethau iechyd, (roedd ei MD yn seiliedig ar weithio gyda grwpiau BAME gyda diabetes Math 2 ym Manceinion). Gyda phrofiad eang o redeg prosiectau cymunedol mewn diabetes a chlefyd y galon, mae hi wedi cael ei henwi’n ‘Meddyg Teulu’r Flwyddyn’ ddwywaith am ei gwaith gyda chymunedau BAME a chyda chleifion, a dyfarnwyd MBE iddi yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2017 am wasanaethau i Ymarfer Cyffredinol.

Meysydd Arbenigedd

  • Diabetes Math 2 mewn lleoliadau cymunedol
  • Ymarfer Cyffredinol
  • Anghydraddoldebau Iechyd
  • Addysg ac Asesiadau Meddygol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Anghydraddoldebau Iechyd

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Addysgu gofal sylfaenol mewn meddygaeth israddedig

Asesiad Meddygol

Datblygu'r cwricwlwm

Ymchwil Prif Wobrau