Trosolwg
Mae Kayleigh Nelson yn Swyddog Ymchwil yn Uned Dreialon Abertawe. Mae wedi gweithio yn y maes ymchwil gwasanaethau iechyd ers 2014. Cyn ymuno â’r Uned Dreialon, treuliodd Kayleigh ddwy flynedd fel ymchwilydd yn Uned Gomisiynu Gydweithredol Genedlaethol GIG Cymru.
Mae Kayleigh yn ymchwilydd ansoddol yn bennaf ac mae ei chefndir mewn seicoleg iechyd. Mae’n arbenigo mewn gwella profiadau pobl sydd â chanser a’r rhai sy’n darparu’r gofal hwnnw. Mae Kayleigh yn arbenigo hefyd mewn agweddau sefydliadol ar ddarparu gofal iechyd fel comisiynu yng Nghymru, rôl cleifion a’r cyhoedd yn llywio gwasanaethau gofal iechyd, a chefnogi gweithlu iach.
Mae Kayleigh yn aelod o fwrdd Ymchwil Gwasanaethau Iechyd y DU ac yn cynrychioli ymchwilwyr yn gynnar yn eu gyrfa