Miss Kirsty Lanyon

Miss Kirsty Lanyon

Cydlynydd Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd ar gyfer Uned Dreialon Abertawe, Health Data Science

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
203
Ail lawr
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Campws Singleton

Trosolwg

Cynorthwyydd Treialon Clinigol a Data ar gyfer Uned Treialon Abertawe yn y Brifysgol yw Kirsty. Mae ei rôl yn amrywio ar draws gwahanol dreialon (a nodir isod); yn gyffredinol, bydd yn cynorthwyo gyda rheoli'r treialon o ddydd i ddydd ac yn helpu i reoli'r data a gesglir.

Meysydd Arbenigedd

  • Cynorthwyo i reoli treialon clinigol
  • Rheoli data
  • Gweinyddu treialon clinigol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Hyd yn hyn, mae Kirsty wedi gweithio ar nifer o brosiectau gan gynnwys prosiect a ariannwyd gan gynghrair BMS/Pfizer sy'n edrych ar yr effaith y mae gwaedu yn ei chael ar bobl sy'n byw gyda ffibriliad atrïaidd, sy'n cael meddyginiaeth wrthgeulo ar bresgripsiwn. Yn ddiweddar, ymunodd â thîm astudio llawfeddygol sydd ar hyn o bryd yn ymchwilio i dechneg lawfeddygol ar gyfer llawdriniaeth ffurfio stoma parhaol, a allai o bosibl leihau'r risg o gymhlethdodau a thorgest i gleifion. Yn olaf, mae hi wedi gweithio o dan y CI o brosiect sy'n edrych i mewn i sefydlu ymwybyddiaeth gyfredol o ganser y croen, a chodi proffil, ymhlith ysgolion cynradd yng Nghymru.

Cydweithrediadau