Dr Juman Al-Dujaili

Dr Juman Al-Dujaili

Uwch-ddarlithydd, Pharmacy
255A
Llawr Cyntaf
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Juman Dujaili yn uwch-ddarlithydd ar y rhaglen MPharm ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddi broffil cadarn mewn addysgu ac ymchwil i addysg newydd ym maes dylunio'r cwricwlwm ac asesu.   Cwblhaodd radd PhD mewn Fferylliaeth Glinigol yn 2014 pan gafodd ei henwebu am y Wobr Traethawd Ymchwil Gorau ar Lefel y Brifysgol. Cydnabuwyd ei heffaith ar ddysgu myfyrwyr yn 2021 a 2022 pan dderbyniodd Glod y Dirprwy Is-ganghellor am Ragoriaeth mewn Addysg ym maes "Arloesedd wrth Ddysgu, Addysgu ac Asesu" ym Mhrifysgol Monash Maleisia.

Gwelir effaith Dr Dujaili ar Ymarfer Fferylliaeth ac Addysg Fferylliaeth drwy ei gwaith ymchwil ysgolheigaidd, ei gwaith mentora myfyrwyr a'i chyflwyniadau a’i chyhoeddiadau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol.  Cyhoeddwyd ei gwaith yn Education and Information Technologies, Current in Pharmacy Teaching and Learning, Value in Health and Frontiers.

Mae Dr Dujaili wedi arwain wrth ddylunio, datblygu a rheoli'r polisi a'r arferion asesu cysylltiedig ar y Rhaglen MPharm ac wrth hyrwyddo ymagwedd gynhwysol at addysg myfyrwyr.

Meysydd Arbenigedd

  • Fferylliaeth Glinigol
  • Ymarfer Fferylliaeth
  • Addysg Fferylliaeth
  • Canlyniadau a adroddir gan gleifion

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Cynllunio Gofal Fferyllol
  • Sgiliau Ymgynghori Uwch
  • Ymarfer Proffesiynol Integredig
  • Iechyd Menywod
  • Clefydau Heintus
  • Anhwylderau Anadlol
  • Anhwylderau Cyhyrysgerbydol
Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau