Dr Jeffrey Davies

Dr Jeffrey Davies

Athro Cyswllt, Biomedical Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602209

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Swyddfa Academaidd - 304
Trydydd Llawr - Neuroscience
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Jeff Davies yn Athro Cysylltiol Niwrobioleg Foleciwlaidd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Mae ei ymchwil yn Labordy'r Sefydliad Gwyddor Bywyd yn ymddiddori yn effaith newidiadau mewn statws metabolig ar weithrediad yr ymennydd. Mae labordy Dr Davies yn canolbwyntio ar amlinellu mecanweithiau gweithredu hormonau sy'n cylchredeg - a reoleiddir gan fwyta – a’u heffaith ar amddiffyn yn erbyn colled celloedd nerfol mewn cysylltiad â chlefyd Parkinson a chlefyd Alzheimer. Mae un o'i brif ddiddordebau'n cynnwys deall sut gall yr hormonau hyn sy'n cylchredeg addasu plastigrwydd bôn-gelloedd niwral (NSC) mewn oedolion er mwyn ysgogi cynhyrchiad celloedd nerfol newydd yn ymennydd yr oedolyn i hybu gweithrediad y cof. Mae'r astudiaethau sylfaenol hyn yn hanfodol i ddeall gweithrediad yr ymennydd a'u nod yw trechu clefydau niwro-ddirywiol sy'n gysylltiedig ag oedran.

Meysydd Arbenigedd

  • • Niwrogenesis yn Hipocampws yr oedolyn
  • • Clefyd Parkinson
  • • Dementia
  • • Ghrelin
  • • Niwroendocrinoleg
  • • Bôn-gelloedd niwral
  • • Meddygaeth aildyfu

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dr Davies yn addysgu Ffisioleg a Niwrowyddoniaeth ar bob lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae ei addysgu'n canolbwyntio ar allu i aildyfu yn ymennydd yr oedolyn, â phwyslais ar addysgu a arweinir gan ymchwil ym maes niwrogenesis yn hipocampws yr oedolyn.

Mae Dr Davies hefyd yn ymwneud â lledaenu darpariaeth dysgu ac addysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Feddygaeth.

Ymchwil Cydweithrediadau