Institute of Life Science 2 Internal Atrium
Dr Jezabel Garcia Parra

Dr Jezabel Garcia Parra

Aelod Cyswllt, Medicine Health and Life Science
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae gwaith ymchwil Jezabel yn canolbwyntio ar ddatblygu therapiwteg uwch mewn meddygaeth drachywir ac astudio biofarcwyr canser newydd.
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae wedi bod yn rhan uniongyrchol o brosiectau datblygu ADC, darganfod targedau ADC newydd, astudio ecsosomau ar gyfer rhaglenni therapiwtig, datblygu modelau meithriniadau 3D a gweithredu gweithdrefnau delweddu cynnwys uwch.
Mae ei diddordebau clinigol wedi canolbwyntio bob amser ar y maes oncoleg, yn bennaf archwilio canserau gynaecolegol (yr ofari, endometriaidd a cheg y groth) a chanser y fron.
Mae ei gyrfa wyddonol wedi ymwneud bob amser â meddygaeth trawsfudol a’i nod yw cyfrannu drwy ymchwil cyn-glinigol i ddatblygu triniaethau ac adnoddau canser newydd er mwyn gwneud diagnosis cynnar o ganser.

Meysydd Arbenigedd

  • • Canser
  • • Datblygu cyffuriau
  • • Darganfod biofarcwyr
  • • Bioleg Atgenhedlol
  • • Cyfieuau Cyffuriau Gwrthgyrff
  • • Ecosomau
  • • Ymchwil Biofeddygol Trawsfudol