Dr Ihsan Al-affan

Dr Ihsan Al-affan

Uwch-ddarlithydd mewn Ffiseg Feddygol, Medical Physics

Cyfeiriad ebost

281A
Ail lawr
Adeilad Talbot
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Ihsan Al-Affan yn uwch-ddarlithydd Ffiseg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe. Dechreuodd ei yrfa fel cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol South Bank Llundain yn ymchwilio i berygl radon i'r ysgyfaint. Roedd yr ymchwil hon yn golygu gweithio ar brosiect i asesu'r risg o gancr yr ysgyfaint sy’n deillio o radon a chynnyrch ei ddadfeiliad. Symudodd i Gaerdydd ym 1990 i weithio yn Ysbyty Felindre fel gwyddonydd clinigol yn yr adran radiotherapi.  Yna ym 1998 aeth i weithioyn Adran Ffiseg Prifysgol Zarka, yn yr Iorddonen  gan ddarlithio ar bynciau amrywiol ym maes ffiseg a ffiseg ymbelydredd meddygol.  Yn 2001, ymunodd Ihsan â'r prosiect 'United Arab Technical Training Project' yn Bexhill On Sea, yn y DU, fel cynghorydd academaidd er mwyn rheoli a monitro cynnydd academaidd dros 150 o fyfyrwyr o'r Emiradau Arabaidd Unedig a oedd yn astudio ac yn hyfforddi mewn colegau technegol Prydeinig.  Ymunodd â'r rhaglen MSc o 2011 ymlaen fel uwch-ddarlithydd mewn Ffiseg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe.

Meysydd Arbenigedd

  • • Diogelwch Ymbelydredd.
  • • Modelu Monte Carlo
  • • Modelu dyluniad ystafelloedd radiotherapi.
  • • Gwella dyluniad y ddrysfa er mwyn cyflawni’r terfyn dos cyfreithiol wrth fynedfa'r ddrysfa.
  • • Y risg o radon i'r ysgyfaint mewn anheddau.

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Addysgu ar y cwrs MSc mewn ffiseg ymbelydredd meddygol

Prif modiwlau a addysgir

PMPM09 Diogelwch Ymbelydredd

Y theori ynghylch y risgiau sydd ynghlwm â'r defnydd o ymbelydredd ïoneiddio ac ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio ym maes meddygaeth ac arfer ffisegwyr meddygol mewn diogelwch ymbelydredd.

MPM19 Diogelwch Ymbelydredd Uwch

Rhan 1 yr arbenigaeth gwyddoniaeth glinigol mewn diogelwch ymbelydredd

PMRM00 Cyflwyniad i arfer Ffisegwyr Meddygol a Pheirianwyr Clinigol mewn Gofal Iechyd

Ymchwil