Miss Gwenno Williams

Miss Gwenno Williams

Aelod Cyswllt, Other/Subsidiary Companies - Not Defined

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602918

Trosolwg

Mae Gwenno'n Athro Ymarferydd yn Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Abertawe.

Yn dilyn cwblhau ei hyfforddiant cyn cofrestru yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, cymhwysodd Gwenno i fod yn fferyllydd yn 2018. Ymgymerodd â diploma clinigol yn yr ysbyty, gan gylchdroi drwy arbenigeddau fel pediatreg, meddygaeth arennol a gofal critigol. Enillodd brofiad hefyd yn y sector gofal sylfaenol yn ystod y cyfnod hwn.

Yn dilyn hyn, derbyniodd Gwenno swydd gylchdroi ym maes cardioleg cyn cyflenwi ar gyfer swydd Fferyllydd Arweiniol Iechyd Menywod a Phlant ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth ddatblygu ei diddordeb mewn addysg ac addysgu rhyngbroffesiynol.

Mae Gwenno'n parhau â'i gyrfa fferylliaeth mewn ysbyty fel uwch fferyllydd ynghyd â'i gwaith fel athro ymarferydd, gyda ffocws ar bediatreg ac obstreteg yn ogystal ag addysg fferyllol a hyfforddi fel tiwtor fferyllwyr dan hyfforddiant a diploma. Fel siaradwr Cymraeg rhugl, mae Gwenno'n ceisio datblygu gweithlu fferylliaeth y dyfodol sy'n gallu defnyddio'r iaith yn y gweithle.

Meysydd Arbenigedd

  • Ymarfer Fferylliaeth
  • Addysg fferylliaeth
  • Fferylliaeth mewn Ysbyty- meddygaeth gyffredinol a phediatreg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ymarfer Fferylliaeth

Addysg fferylliaeth Gymraeg

Addysg ryngbroffesiynol

Cyfrifo fferyllol