Gilda Padalino

Dr Gilda Padalino

Darlithydd, Pharmacy

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
264
Llawr Cyntaf
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Hyfforddodd Gilda fel cemegydd meddyginiaethol ym Mhrifysgol Salerno (yr Eidal) lle enillodd ei gradd (BSc ac MSc mewn Cemeg Feddyginiaethol a Thechnoleg Fferyllol, yn rhan o’r radd Fferylliaeth) gyda prosiect blwyddyn olaf ar ddatblygu atalyddion epigenetig ar gyfer trin canser y prostad.

Yn gyntaf, gweithiodd hi fel fferyllydd cofrestredig mewn fferyllfa gymunedol leol yn yr Eidal. Yna ymgofrestrodd hi â phrosiect PhD i ddarganfod cyffuriau drwy ganolbwyntio ar barasitoleg (yn 2015). Roedd y prosiect yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd ac fe’i hariannwyd gan Rwydwaith Gwyddorau Bywyd Cymru. Ffocws ei hymchwil oedd ymchwilio mewn ffordd fiolegol i dargedau epigenynnol yn y parasit ynghyd â nodi a datblygu cyffuriau gwrth-sgistosomaidd.

Yn 2022, fe’i phenodwyd yn Gydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol (Prifysgol Caerdydd) i weithio ar ddylunio, syntheseiddio ac optimeiddio cyfansoddion gwrth-sgistosomaidd a ddeilliodd o’i PhD.

Mae Gilda’n fiolegydd cemegol ac mae hi’n mwynhau gweithio mewn amgylcheddau rhyngddisgyblaethol a phontio’r bwlch rhwng sylfeini biolegol pwnc ymchwil penodol ac ymchwiliad cemegol i gymwysiadau darganfod cyffuriau. 

Ymunodd Gilda â Phrifysgol Abertawe fel darlithydd mewn biofferylleg ym mis Medi 2023.

Meysydd Arbenigedd

  • Darganfod cyffuriau
  • Parasitiaid
  • Epigeneteg
  • Cemeg Feddyginiaethol
  • Modelu Moleciwlaidd a sgrinio rhithwir
  • Bioleg Foleciwlaidd a Chellol
  • Sgrinio Cyffuriau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Cemeg
  • Bioleg
  • Fferylleg
  • Parasitiaid
  • Cemotherapi
Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau