Grace Bailey

Dr Grace Bailey

Swyddog Ymchwil - Prosiect Catalydd Cymunedol Ymchwil Data Gweinyddol Lloegr, Health Data Science

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol

Trosolwg

Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data yw Dr Grace Bailey yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Graddiodd gyda BSc (Anrh) mewn niwrowyddoniaeth, cyn cwblhau MSc mewn Seicoleg Annormal a Chlinigol o Brifysgol Abertawe. Cwblhaodd ei Phd ym Mhrifysgol Caerdydd a ddefnyddiodd ddata iechyd i ymchwilio i dystonia. 

Aeth Grace i weithio i Fanc Data SAIL lle roedd hi'n dadansoddi ystod eang o brosiectau ymchwil iechyd, cymdeithasol ac addysgol gan ddefnyddio data gweinyddol. Mae gwaith ymchwil presennol Grace yn canolbwyntio ar iechyd a lles plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed yng Nghymru.

Meysydd Arbenigedd

  • Cysylltedd data
  • Iechyd Cyhoeddus
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Epidemioleg
  • Iechyd Meddwl

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae ganddi arbenigedd mewn dadansoddi data hydredol, cysylltu cofnodion gweinyddol, cwmpasu ac adolygu llenyddiaeth.

Mae hi wedi cyhoeddi ym meysydd dystonia, iechyd meddwl, imiwneiddiadau plentyndod a llwybrau gofal.

Mae ei PhD yn canolbwyntio ar symptomau anechddygol (anhwylderau seiciatrig, gwybyddol a chysgu) dystonia. Mae hyn yn cynnwys defnyddio Biobanc y DU a Banc Data SAIL, yn ogystal â chasglu data sylfaenol yn defnyddio technoleg wisgadwy.

Cydweithrediadau