Mynedfa flaen adeilad grove
Dr Claire Vogan McCabe

Dr Claire Vogan McCabe

Athro Cyswllt, Medicine

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602172

Cyfeiriad ebost

114
Llawr Gwaelod
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cychwynnodd Claire ei gyrfa fel microbiolegydd morol gan ennill ei Doethuriaeth o Brifysgol Cymru, Abertawe yn 2000. Symudodd o’r maes iechyd anifeiliaid dyfrol i Feddygaeth yn 2003 ar gyfer lansiad cwrs Meddygaeth i Raddedigion (GEM) Prifysgol Abertawe. Derbyniodd rôl Tiwtor Cyswllt Anabledd yr Ysgol yn 2008 ac, yn fuan wedyn, daeth yn arweinydd Cymorth ac Arweiniad Myfyrwyr i GEM.
Felly, mae ganddi brofiad helaeth o gynllunio a rheoli cyrsiau, addysgu, (microbioleg ac imiwnoleg) a chefnogi myfyrwyr meddygol. Yn ychwanegol i’w rolau GEM, mae bellach yn gofalu am y cymorth ar gyfer y cwrs Meddyg Cyswllt ac mae’n addysgu ar Raglenni Meistr Prifysgol Abertawe ar Arweinyddiaeth ac Addysg ar gyfer y Proffesiynau Iechyd. Mae’n Gydgadeirydd SUMS hefyd ar gyfer y pwyllgor Amgylchiadau Arbennig ac mae’n gynrychiolydd ar bwyllgor SAILS y Brifysgol. Yn allanol, mae’n adolygu cymheiriaid ar gyfer nifer o gyfnodolion addysg meddygol, mae’n hwylusydd y cwrs ESMELead ac ar hyn o bryd mae’n arholwr allanol ar gyfer cwrs Meistr mewn Rheolaeth, Arweinyddiaeth ac Arloesedd Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Plymouth.

Meysydd Arbenigedd

  • Microbioleg
  • Cymorth myfyrwyr
  • Datblygiad personol a phroffesiynol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Microbioleg ac Imiwnoleg
Datblygu arweinyddiaeth mewn gweithwyr proffesiynol gofal iechyd
Datblygiad personol a phroffesiynol mewn myfyrwyr gofal iechyd

Ymchwil Cydweithrediadau