Professor Angharad Davies

Yr Athro Angharad Davies

Athro, Medicine

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Swyddfa Academaidd - 503
Pumed Llawr - Microbiology
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Davies yn ficrobiolegydd clinigol academaidd ac mae ganddi gytundeb ymgynghorol er anrhydedd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle mae hi’n ficrobiolegydd meddygol ymgynghorol ar gyfer yr Uned Gyfeirio Cryptosporidiwm Genedlaethol.

 

Mae Dr Davis yn un o Brif Gymrodorion yr Academi Addysg Uwch a hi yw Cyd-arweinydd Coleg Brenhinol y Patholegwyr ar gyfer Addysg Israddedig a Sylfaen yn y DU. Hi yw’r Arweinydd Arbenigol ar gyfer Heintiau yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Meysydd Arbenigedd

  • • Microbioleg feddygol a diagnosteg
  • • Cryptosporidiwm
  • • Addysg feddygol israddedig ac ôl-raddedig yn y disgyblaethau patholeg ddiagnostig
  • • Addysg ryngbroffesiynol mewn gofal iechyd, yn enwedig mewn perthynas ag ymwrthedd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd.

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dr Davies yn Arweinydd Thema ar y cwrs Meddygaeth i Raddedigion. Mae hi hefyd yn addysgu israddedigion eraill yn yr Ysgol Feddygaeth, ac ar nifer o gyrsiau ôl-raddedig. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn addysg a hyfforddiant ym maes ymwrthedd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd. Mae hi’n cynnal cwrs rhyngbroffesiynol arbenigol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd ac mae hi’n arwain prosiect Addysgwyr Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Cymru Gyfan (www.antibioticaware.com/aware).

 

Ymchwil