Amy Mizen

Mrs Amy Mizen

Uwch-swyddog Ymchwil, Health Data Science

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Enillodd Amy ei BSc mewn Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Caerlŷr ac aeth ymlaen i gwblhau ei MSc mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol yno. Yna cwblhaodd ei PhD mewn Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl tair blynedd mewn swydd ymchwil ôl-ddoethurol yn ymchwilio i effaith argaeledd mannau gwyrdd ar iechyd, mae wedi dechrau ar Gymrodoriaeth yn archwilio sut mae'r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc.  Mae diddordeb mawr gan Amy mewn creu modelau gofodol cymhleth i gynrychioli sut mae poblogaethau'n cysylltu â'u hamgylchedd lleol a chysylltu hyn â data iechyd i greu mewnwelediadau newydd ar sut i wella iechyd y cyhoedd.  

Mae Amy'n addysgu ar sawl cwrs gan gynnwys PM 146 Technolegau Iechyd Symudol, PM 259 themâu a dulliau cyfoes yn y gwyddorau meddygol, PM374 iechyd plant, GEGM22 GIS, PMIM 502 Delweddu Data Iechyd.

Meysydd Arbenigedd

  • • Aerodynameg Cyflymder Uchel
  • • Deinameg Hylifau Gyfrifiadol
  • • Dadansoddi Data
  • • Daearyddiaeth
  • • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
  • • Modelu Gofodol
  • • Asesiad Dangosiad Hydredol
  • • Polisi Iechyd Cyhoeddus

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Amy'n addysgu ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig gyda ffocws arymyriadau a gwerthusiadau iechyd y cyhoedd, gwyddor data gofodol, gwyddor data iechyd ac ystadegau gofodol. Mae ffocws addysgu a goruchwylio AMY ar ba agweddau ar yr amgylchedd trefol y gellir eu haddasu i wella iechyd y boblogaeth. 

Ymchwil Cydweithrediadau