a photo of Singleton campus with the view of the Singleton park and sea

Dr Annamari Ylonen

Swyddog Ymchwil, Education and Childhood Studies

Cyfeiriad ebost

438
Pedwerydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Dr Annamari Ylonen ag Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe fel Swyddog Ymchwil mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon ym mis Ebrill 2020. Mae gan Annamari brofiad helaeth ym maes ymchwil a gwerthuso mewn dysgu ac addysgu a enillodd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol trwy weithio i nifer o brifysgolion yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol East Anglia. 

Mae hi wedi cynnal ymchwil a gwerthuso ym meysydd Ehangu Cyfranogiad, Cynnydd Dysgu ym myd Addysg Uwch, datblygiad proffesiynol athrawon trwy Astudio Gwersi, gwella ysgolion yn Qatar, a chynhwysiant ac anghenion addysgol arbennig. Mae Annamari wedi ennill profiad mewn defnyddio methodolegau megis Gwerthuso Realyddion, llunio ymchwil lled-arbrofol, ymchwil astudiaethau achos a defnyddio dulliau cymysg.  

Mae ei diddordebau ymchwil eang yn cynnwys dulliau rhyng-ddisgyblaethol er mwyn gwella prosesau dysgu ac addysgu, datblygu modelau rhagoriaeth cyfannol, datblygiad proffesiynol i athrawon a chyfiawnder a chynhwysiant cymdeithasol fel y’u cymhwysir yn rhan o bolisïau ac ymarferion ym maes addysg.

Meysydd Arbenigedd

  • Addysg Ryngwladol
  • Astudio Gwersi
  • Ymchwil a dadansoddi ansoddol