Amy Johnson

Dr Amy Johnson

Darlithydd mewn Gwyddoniaeth Fiofeddygol, Medicine Health and Life Science

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
140
Llawr Cyntaf
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Dr Amy Johnson yn Ddarlithydd Gwyddor Fiofeddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Cwblhaodd Dr Johnson BSc (Anrh.) mewn Gwyddor Fiofeddygol yn 2006 a dyfarnwyd PhD iddi o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn 2011 am ymchwilio i Fodiwleiddio Niwroimiwnedd y Cloc Beunyddiol. Yna cafodd Dr Johnson nifer o swyddi ôl-ddoethurol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe gan ymchwilio i rôl niwroamddiffyn peptidau metabolaidd mewn clefydau'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag oedran. Mae ganddi ddiddordebau cryf mewn sawl maes Niwrowyddoniaeth gan gynnwys niwroddirywio, niwroamddiffyn a niwrogenesis.  Darlithydd yn

Mae Dr Johnson yn darlithio ar y radd MSc Gwyddor Fiofeddygol ac yn arbenigo mewn Patholeg Gellog. Mae hi'n gymrawd y Sefydliad Gwyddor Fiofeddygol.

Mae Dr Johnson hefyd yn frwdfrydig am hyrwyddo cydweithrediadau rhwng y byd academaidd a byd diwydiant ar ôl treulio 10 mlynedd mewn diwydiant. 

Meysydd Arbenigedd

  • Niwroimiwmoleg
  • Niwroddirywio
  • Niwroamddiffyn
  • Patholeg Gellog

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dr Johnson yn darlithio ar y rhaglenni gradd MSc/PGDip mewn Gwyddor Fiofeddygol (Biocemeg Glinigol/Microbioleg). Mae addysgu Dr Johnson yn canolbwyntio ar Batholeg Gellog a'r technegau labordy sy'n rhan o Histopatholeg Ddiagnostig. Yn ogystal, mae Dr Johnson yn helpu i hyfforddi myfyrwyr ar eu prosiectau ymchwil.