Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2024-25
- Diogelwch ar y Campws
- Arweinyddiaeth y Brifysgol
- Llywodraethu'r Brifysgol
- Cyllid
- Caffael
- Gwerthoedd
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Gweledigaeth ac uchelgais
- Gwasanaethau Cyfreithiol
- Cydymffurfiaeth
- Gwasanaethau Arlwyo
- Cysylltu â ni
Paratowyd yn unol â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
1. Cyflwyniad
Cyfeiria’r Adroddiad Blynyddol hwn at y cyfnod rhwng 1 Awst 2024 a 31 Gorffennaf 2025 a’r modd y gweithredir Safonau’r Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r camau a roddwyd ar waith gan y Brifysgol er mwyn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â’r Safonau Iaith. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu rhai llwyddiannau penodol ac yn amlinellu amcanion datblygu ar gyfer 2025-26. Gellir gweld copi o Hysbysiad Cydymffurfio Prifysgol Abertawe yma.
Yn ystod y flwyddyn, bu Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg ac Academi Hywel Teifi yn canolbwyntio ar yr amcanion canlynol:
- Lansio e-fodiwl ymwybyddiaeth iaith ar gyfer holl staff y Brifysgol – nod yr e-fodiwl, ‘Cymru, Cymraeg a Phrifysgol Abertawe’, yw hyrwyddo’r Gymraeg, gan esbonio goblygiadau Safonau’r Gymraeg i staff y Brifysgol yn ogystal ag amlinellu’r cyfleoedd i staff ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, ac esbonio sut mae’r Brifysgol yn cefnogi myfyrwyr i ddefnyddio’u Cymraeg wrth astudio a chymdeithasu. Cyflwynir elfennau cyffredinol am Gymru a’r Gymraeg hefyd. Mae’r modiwl yn orfodol i holl staff y Brifysgol, ac erbyn hyn mae 21% (723) o staff y Brifysgol wedi ei gwblhau.
- Ystyried newidiadau i’r broses fonitro o ganlyniad i strwythurau mewnol newydd – adolygwyd y broses fonitro mewn ymateb i newidiadau strwythurol. Mae holl swyddogaethau gweinyddol y Brifysgol bellach wedi’u canoli mewn gwasanaethau proffesiynol craidd, ac felly’r gwasanaethau hyn yw prif ffocws y gwaith monitro erbyn hyn.
- Cynghori a chefnogi datblygiad system gofnodion myfyrwyr newydd y Brifysgol.
- Cynghori a chynllunio ar gyfer Hwb gwasanaethau newydd i fyfyrwyr – cafodd staff Academi Hywel Teifi fewnbwn i’r broses gynllunio, gan gynnwys sicrhau gwasanaethau Cymraeg wyneb yn wyneb ac ar-lein, dewis brandio Cymraeg (HWB) ynghyd â marchnata’r gwasanaeth a chyfathrebu’r newidiadau i fyfyrwyr yn ddwyieithog.
- Cynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg – yn ystod y flwyddyn, yn dilyn cynllun peilot a arianwyd gan Academi Hywel Teifi yn 2023-24, lansiwyd cynllun cynrychiolwyr myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu cefnogi a bod eu lleisiau yn cael eu clywed o fewn eu cyfadrannau a’r Brifysgol yn ehangach. Yn ystod y flwyddyn, bu cynrychiolwyr Cymraeg yn yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Trydanol, Cyffredinol a Mecanyddol, yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol, yr Ysgol Seicoleg, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol y Gyfraith.
- Cynnig cyfleoedd newydd i staff y Brifysgol sy’n siarad/dysgu Cymraeg – cynigwyd côr Cymraeg i staff y Brifysgol mewn cydweithrediad a Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.
2. Strwythur Adrodd ar y Gymraeg
Mae Academi Hywel Teifi yn cynnwys y tair uned ganlynol:
- Uned Darpariaeth Academaidd, Diwylliant a Chreadigol – sy’n cynnwys Cangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Thŷ’r Gwrhyd, sef Canolfan Gymraeg Cwm Tawe
- Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe – sy’n ddarparwr cyrsiau y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- Yr Uned Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith – sy’n cynnwys cyfieithwyr Cymraeg y Brifysgol a Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg
Mae Pwyllgor Strategaeth y Gymraeg yn sicrhau gweithredu yn erbyn amcanion Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg Prifysgol Abertawe 2022-27 a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol. Cadeirir y Pwyllgor, sy’n cyfarfod yn fisol, gan y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant, yr Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi. Mae aelodau’r pwyllgor yn cynnwys penaethiaid y tair uned Academi Hywel Teifi uchod, ynghyd ag Arweinyddion y Gymraeg y tair Cyfadran, Swyddog Prosiect Strategaeth y Gymraeg, Pennaeth y Ddesg Gymorth TG, Rheolwr Gweithrediadau Canolfan y Celfyddydau Taliesin a Swyddog Materion Cymraeg Undeb y Myfyrwyr. Mae’r pwyllgor yn gweithredu fel cynghorydd arbenigol i Uwch Dîm Rheoli Prifysgol Abertawe, gan argymell newidiadau i’r strategaeth gyffredinol, neu fentrau unigol, er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd o gyflawni amcanion strategol y Brifysgol. Mae’n goruchwylio gwaith Academi Hywel Teifi, Cangen Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r gwaith o gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg gan godi ymwybyddiaeth o berthnasedd a phwysigrwydd y Gymraeg i’r Brifysgol.
Rôl Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg yn y Brifysgol, Nia Besley, yw hyrwyddo, hwyluso, cefnogi a monitro gweithrediad Safonau’r Gymraeg.
Carys Dukes oedd Swyddog Materion Cymraeg llawn amser Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar gyfer 2024-25. Bu’n cadeirio fforymau tymhorol i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg fel rhan o’i rôl yn yr Undeb ond hefyd yn rhinwedd ei rôl fel cadeirydd Fforwm Myfyrwyr Cangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg. Ym mis Gorffennaf 2024, daeth Tanwen Moon i’r rôl ar gyfer 2025-26. Bydd Carys Dukes yn camu ymlaen i rôl Llywydd yr Undeb ar gyfer 2025-26, gan sicrhau cynrychiolaeth Gymraeg gref yn Undeb y Myfyrwyr.
Bellach, mae gan bob cyfadran Arweinydd y Gymraeg ac mae gan y mwyafrif o ysgolion academaidd ein cyfadrannau Gydlynydd y Gymraeg. Mae Arweinyddion y Gymraeg yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg y gyfadran ac arwain datblygiadau a chynnydd, yn ogystal â bod â throsolwg o weithrediad Safonau’r Gymraeg yng nghyd-destun profiadau myfyrwyr y gyfadran.
3. Strategaeth y Gymraeg
Mae Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg y Brifysgol wedi bod ar waith bellach ers Mehefin 2022. Mae’r Strategaeth yn seiliedig ar bedwar piler allweddol, sef Diwylliant ein Prifysgol, Profiad y Dysgwr, Gwreiddio’r Gymraeg ledled y Brifysgol, a Chefnogi ein Hymchwil a’n Cenhadaeth Ddinesig. Dyma rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn a fu mewn perthynas â’r pedwar piler:
Diwylliant ein Prifysgol
Prif nod y piler hwn yw sicrhau bod ein Prifysgol yn gartref i gymuned o fyfyrwyr a staff amlieithog ac amlddiwylliannol sy’n groesawgar ac yn ffyniannus.
Yn ystod y flwyddyn lansiwyd y modiwl ymwybyddiaeth iaith gorfodol newydd i staff. Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol, gyda llawer o staff yn datgan bod yr wybodaeth am hanes y Gymraeg ac am Gymru yn ddiddorol, a’r wybodaeth am y Gymraeg yn y Brifysgol, sy’n cynnwys gofynion Safonau’r Gymraeg, yn ddefnyddiol.
Ceir cyfleoedd i staff gwrdd â staff Cymraeg eraill, gan gynnwys sesiynau anffurfiol dros baned, sesiynau cinio a chynllunio sy’n trafod blaenoriaethau Cymraeg gyda staff academaidd a gweinyddol, a fforymau’r Coleg Cymraeg. Mae’r rhain oll yn agored i holl staff y Brifysgol.
Hyrwyddir hawliau Cymraeg myfyrwyr ar adegau penodol o’r flwyddyn. Yn gyntaf, wrth gofrestru ym mis Medi, ac eto ar ddiwrnodau penodol megis Diwrnod Shw’ Mae, cyfnod ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ Comisiynydd y Gymraeg, Dydd Gŵyl Dewi ac ati. Caiff yr wybodaeth ei rhannu’n barhaus hefyd ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Academi Hywel Teifi a’r Brifysgol.
Wrth gydweithio ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, mae’r Aelwyd yr Urdd ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol, Aelwyd yr Elyrch, yn cyfarfod yn gyson er mwyn darparu cyfleoedd i gymdeithasu a datblygu sgiliau i’n myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. O dan arweiniad Swyddog yr Aelwyd, Emily Evans, myfyriwr PhD o dan nawdd y Coleg Cymraeg ac un o lysgenhadon ôl-raddedig y Coleg, mae Aelwyd yr Elyrch wedi tyfu a datblygu. Bu cystadlu brwd ar garreg y drws yn Eisteddfod Dur a Môr Parc Margam a’r Fro eleni ac fe enillwyd eu medalau cyntaf yn y Grŵp Llefaru dan 25 a’r Ddeuawd Cerdd Dant 19-25.
Ym mis Mawrth 2025, bu myfyrwyr y Brifysgol yn cystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Aberystwyth.
Profiad y Dysgwr
Yn ystod y flwyddyn, agorwyd Lolfa Groeso newydd ym mhrif adeilad Campws Singleton, Tŷ Fulton. Nod y Lolfa Groeso yw darparu lle bywiog i ddod â myfyrwyr ynghyd, dathlu amrywiaeth, a chreu cymuned groesawgar i bawb. Mae bellach yn fan cyfarfod i fyfyrwyr lleol a rhyngwladol, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau, digwyddiadau a chyfleoedd i ddod ynghyd. Cyfranwyd at yr ymdrechion i sicrhau lle amlwg i’r Gymraeg yn y brandio a’r addurno, a bydd cyfleoedd i gynnal gweithgareddau Cymraeg i fyfyrwyr yn y Lolfa.
Yn ystod 2024-25, mae’r gwaith o drawsnewid cwricwlwm y Brifysgol wedi parhau. Mae’n brosiect dwy flynedd gyda’r addasiadau i’r cwricwlwm i’w gweithredu o Fedi 2025 ymlaen. Mae’r ddogfennaeth ar gyfer addasu’r rhaglenni gradd ar draws y disgyblaethau yn galw am wybodaeth sy’n amlinellu’r ddarpariaeth iaith Gymraeg ar bob rhaglen unigol ac esboniadau penodol ar beth a wneir i gefnogi myfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg. Y gobaith yw y bydd y cwricwlwm yn ehangu’r cyfleoedd i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y rhaglenni gan hefyd ateb anghenion sgiliau a gweithleoedd dwyieithog Cymru.
Ynghyd â hyn, mae Priodoleddau Graddedigion Abertawe wedi eu cynllunio a Strategaeth Addysg newydd ar gyfer 2025-30. Mae staff Academi Hywel Teifi, Arweinwyr Cymraeg y cyfadrannau a Swyddog Materion Cymraeg yr Undeb Myfyrwyr wedi bod yn rhan greiddiol o’r trafodaethau a’r cynllunio hyn gan sicrhau bod y Gymraeg, yr iaith ei hun a’r ddarpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg, yn derbyn ystyriaeth deilwng a’i chynnwys.
Mae’r Brifysgol yn parhau i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio elfennau o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu sy’n dewis cael eu hasesu trwy’r Gymraeg. Gan gydweithio â’r Coleg Cymraeg mae’r Brifysgol yn parhau i ddatblygu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y pynciau gyda darpariaeth newydd yn cael ei chyflwyno mewn Astudiaethau Busnes yn ystod 2024-25. Adeiladwyd hefyd ar y datblygiadau a welwyd yn y flwyddyn flaenorol mewn Gwyddorau Parafeddygol, Seicoleg ac Addysg a chytunwyd ar lwybr newydd i astudio trwy’r Gymraeg mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol a Chyfrifiadureg ar gyfer 2024-25 ymlaen. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer 2025-26 ym meysydd Therapi Galwedigaethol a Fferylliaeth.
Cynigir cyfle blynyddol i staff a myfyrwyr i gwblhau Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ystod 2024-25, cwblhaodd 6 person y dystysgrif, sef 4 myfyriwr a 2 aelod o staff.
Gwreiddio’r Gymraeg ledled y Brifysgol
Nod y piler hwn yw parhau i ganolbwyntio ar gydymffurfio â gofynion Safonau’r Gymraeg trwy wella cyfleoedd i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws ein cymuned a chynyddu ein buddsoddiad mewn meysydd sy’n allweddol i gefnogi ein huchelgeisiau, megis cyfieithu.
Crëwyd canllawiau newydd yn ystod y flwyddyn ynghylch defnyddio cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau gyda’r nod o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn cyfarfodydd a digwyddiadau.
Yng nghyd-destun Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol a fu’n cyflwyno cyfres o newidiadau trwy raglen drawsnewidiol dros gyfnod o 18 mis, cynhaliwyd trafodaethau rhwng Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi â Phennaeth pob uned am effaith eu cynlluniau ar yr iaith Gymraeg o fewn y sefydliad, gyda’r nod o warchod y gwasanaeth sydd eisoes yn cael ei gynnig ond hefyd edrych am gyfleoedd cadarnhaol i wneud datblygiadau pellach neu i ganfod ffyrdd mwy effeithlon o gynnig gwasanaeth dwyieithog.
Yng nghyd-destun y ddarpariaeth addysgiadol, bu gwaith yn mynd rhagddo ar ddechrau Haf 2024 i gyflwyno trefn gofrestru diofyn ar fodiwlau craidd cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr rhugl eu Cymraeg (sydd yn dilyn cyrsiau sy’n derbyn grantiau pynciol gan y Coleg Cymraeg) fyddai’n ymuno â’r Brifysgol am y tro cyntaf ym Medi 2024. Cyflwynwyd y drefn yn dilyn asesu canlyniadau peilot llwyddiannus yn Ysgol y Gyfraith y flwyddyn flaenorol. Gweithredwyd y cynllun (trwy ddull â llaw) ym mis Medi 2024 a chanfuwyd erbyn Haf 2025 iddo gael effaith gadarnhaol ar ein niferoedd myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 5 credyd o’u cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chynnydd o 20.5% yn y niferoedd rhwng 2023-24 a 24-25. Mae Pwyllgor Strategaeth yr Iaith a Diwylliant Cymru (PSIG), y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau'r Brifysgol a Phwyllgor Addysg y Brifysgol wedi cymeradwyo'r broses o gofrestru'n ddiofyn ar gyfer pob cwrs sy'n cynnig darpariaeth orfodol cyfrwng Cymraeg/dwyieithog o 2025 ymlaen. Mae hwn bellach yn bolisi o fewn Rheoliadau Israddedig Cyffredinol y Brifysgol. Adwaenwyd fod y broses yn un llafurus fel yr oedd ac mae gwaith yn mynd rhagddo i droi’r dasg yn un awtomatig wrth i’r Brifysgol gyflwyno system gofrestriadau myfyrwyr newydd SITS2 ar gyfer 2025-26. Adroddir ymhellach ar hyn i Swyddfa’r Comisiynydd yn 2026.
Datblygiad diweddar arall yw penodi Cydlynwyr y Gymraeg o fewn ysgolion cyfadrannau’r Brifysgol er mwyn cynorthwyo Arweinwyr y Gymraeg y Cyfadrannau i yrru newidiadau a datblygiadau cadarnhaol ar ran y Gymraeg a’i defnyddwyr. Ochr yn ochr â hyn mae cynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg hefyd ar fin cael eu penodi gan Undeb y Myfyrwyr er mwyn sicrhau bod eiriolwyr ar ran ein myfyrwyr cyfrwng Cymraeg o fewn ein trefn dysgu ac addysgu. Adroddir ymhellach ar hyn yn 2026.
Cefnogi ein hymchwil a’n cenhadaeth ddinesig
Yn ôl ei harfer, mynychodd y Brifysgol ddwy Eisteddfod genedlaethol Cymru, gan noddi a churadu rhaglenni y GwyddonLe yn yr Urdd a’r Babell Lên yn y Brifwyl. Parhawyd gyda’r gwaith o arwain Canolfan Gymraeg Cwm Tawe, Tŷ’r Gwrhyd, a chydweithio’n agos gyda Thŷ Tawe ynghanol dinas Abertawe a’r ddwy Fenter Iaith Leol yn Abertawe a CNPT.
Darperir cwrs i’r cyhoedd, Creu ar Gynghanedd yn Nhŷ’r Gwrhyd. Cynhelir y dosbarthiadau bob pythefnos dros 10 sesiwn o 2 awr ar gyfer dysgwyr uwch a siaradwyr rhugl. Mae’r cwrs yn gyfle i festroli'r gynghanedd a chreu cerddi ar wahanol fesurau dan arweiniad y Prifardd Robat Powell.
Cyhoeddwyd newyddlen Gymraeg flynyddol y Brifysgol, Arwain, i rannu straeon a datblygiadau’r Brifysgol gyda’r gymuned iaith Gymraeg.
4. Cydymffurfio â’r Safonau Gwasanaethau
Mae Swyddog Polisi’r Gymraeg yn parhau i hyrwyddo’r safonau cyflenwi gwasanaethau ac yn hyfforddi staff ynghylch y gofynion, yn ogystal â monitro cydymffurfiaeth mewn amryw ffyrdd: negeseuon ar dashfwrdd y fewnrwyd staff, modiwl ymwybyddiaeth ar-lein newydd, holiaduron adrannol, cymorthfeydd pwrpasol a hyfforddiant penodol. Gweithir hefyd gyda chorff y myfyrwyr i bwysleisio eu hawliau.
5. Cydymffurfio â’r Safonau Gweithredu
Mae pob polisi a strategaeth newydd yn destun prosesau Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb (“EqIA”) y Brifysgol. Mae adran ynglŷn â’r Gymraeg ar bob ffurflen EqIA. Mae astudiaethau achos yn ffurfio rhan o dempled y ffurflen er mwyn cynorthwyo’r broses o ystyried yn llawn y goblygiadau o safbwynt y Gymraeg. Mae tîm Cydraddoldeb y Brifysgol yn cydweithio â Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg i ddadansoddi ffurflenni EqIA drafft fel y gellir ymyrryd yn gynnar yn y broses o benderfynu, yn ôl yr angen. Mae Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg yn cadw cofnod o’r holl asesiadau sydd wedi’u cyflawni.
Trwy aelodaeth Cyfarwyddwr yr Academi o Uwch Dîm Rheoli Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol ers Haf 2022, mae bellach modd clywed ynghynt am unrhyw newidiadau arfaethedig a darparu ymyrraeth gynnar mewn unrhyw waith addasu polisïau.
Cwblhawyd yr Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a’r Gymraeg canlynol yn ystod y cyfnod dan sylw:
Polisi Amserlennu
Polisi Teithio a Threuliau
Platfform Rheoli Meddalwedd
Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil
Polisi Cofrestru di-ofyn (modiwlau cyfrwng Cymraeg)
6. Cydymffurfio â’r Safonau Gweithredu
Yn ystod sesiynau hyfforddi i staff newydd ac yn y modiwl ymwybyddiaeth ar-lein newydd cyfeirir staff at Bolisi Defnyddio’r Gymraeg yn y Gwaith, gan esbonio bod hawliau penodol gan staff y Brifysgol.
Bydd pob cyflogai newydd sy’n nodi pan gynigir iddo yr hoffai gyfweliad cyfrwng Cymraeg, ac aelodau staff presennol sy’n datgan pan ofynnir iddynt mai’r Gymraeg yw eu dewis iaith, yn derbyn cytundeb cyflogaeth yn y Gymraeg, yn ogystal â gohebiaeth bersonol sy’n ymwneud â’i gyflogaeth.
Mae staff yn gallu nodi eu dewis iaith ar y system adnoddau dynol, ABW, a chaiff y cofnod hwn ei wirio wrth ohebu gyda staff. Rhoddir gwybod i staff, trwy hyfforddiant gan Swyddog Polisi’r Gymraeg a chanllaw ar fewnrwyd y staff, sut y gellir gwirio a diweddaru’r wybodaeth hon.
Gofynnir i bob ymgeisydd swydd am ei sgiliau Cymraeg, a chaiff yr wybodaeth a ddarperir ei bwydo i mewn i’r system adnoddau dynol os caiff yr unigolyn ei benodi. Mae modd i aelodau staff ddiweddaru eu sgiliau Cymraeg drwy ddull hunanwasanaeth yn y system adnoddau dynol, ac fe’u hatgoffir i wneud hyn fel rhan o’r hyfforddiant a gaiff ei ddarparu gan Swyddog Polisi’r Gymraeg ac ar fewnrwyd staff y Brifysgol. Anogir staff hefyd i ailystyried yr wybodaeth hon wrth iddynt wella eu sgiliau Cymraeg.
Mae’r Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth yn derbyn adroddiad misol sy’n dangos pob aelod o staff newydd, gyda’u dewis iaith a’u sgiliau iaith. Anfonir gair o groeso Cymraeg at yr aelod staff newydd gan amlinellu ei hawliau Cymraeg, a’r cyfleoedd Cymraeg sydd ar gael yn y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys dyddiadau unrhyw gyfarfodydd neu ddigwyddiadau perthnasol sydd i ddod. Caiff bathodyn Outlook ei atodi sy’n dangos os yw’r aelod staff yn siaradwr Cymraeg rhugl/canolradd (ar sail hunan-ddatgan), ynghyd â chanllawiau ar sut i’w lanlwytho. Mae’r defnydd o’r bathodyn wrth e-bostio wedi gwella amlygrwydd siaradwyr Cymraeg ar draws y Brifysgol, ac mae staff yn croesawu’r defnydd ohono.
7. Sgiliau Cymraeg Staff y Brifysgol
CYFANSWM STAFF 3536 (3736 yn 2024)
Staff gweinyddol 1884 (Cyfanswm 1998 yn 2024)
|
|
Darllen 2024 |
Darllen 2025 |
Ysgrifennu 2024 |
Ysgrifennu 2025 |
Siarad 2024 |
Siarad 2025 |
Deall 2024 |
Deall 2025 |
|
Dim o gwbl |
869 (44%) |
801 (42%) |
1026 (49%) |
950 (50%) |
809 (38%) |
750 (40%) |
717 (34%) |
659 (35%) |
|
Ychydig |
667 (33%) |
650 (35%) |
556 (26%) |
540 (29%) |
747 (35%) |
717 (38%) |
785 (37%) |
761 (40%) |
|
Eithaf da |
115 (6%) |
102 (5%) |
106 (5%) |
99 (5%) |
88 (4%) |
81 (4%) |
127 (6%) |
113 (6%) |
|
Rhugl |
165 (8%) |
161 (9%) |
126 (6%) |
123 (7%) |
171 (8%) |
166 (9%) |
190 (9%) |
184 (10%) |
|
Dim data |
182 (9%) |
170 (9%) |
184 (9%) |
172 (9%) |
183 (9%) |
170 (9%) |
179 (8%) |
167 (9%) |
*Mae’r opsiwn i beidio â dweud wedi’i ddileu o’r system erbyn hyn
Staff Academaidd 1652 (Cyfanswm 1701 yn 2024)
|
|
Darllen 2024 |
Darllen 2025 |
Ysgrifennu 2024 |
Ysgrifennu 2025 |
Siarad 2024 |
Siarad 2025 |
Deall 2024 |
Deall 2025 |
|
Dim o gwbl |
1016 (60%) |
925 (56%) |
1114 (65%) |
1037 (63%) |
991 (58%) |
920 (56%) |
936 (55%) |
858 (52%) |
|
Ychydig |
338 (20%) |
379 (23%) |
253 (15%) |
287 (17%) |
365 (21%) |
387 (23%) |
392 (23%) |
421 (26%) |
|
Eithaf da |
44 (2%) |
54 (3%) |
40 (2%) |
42 (3%) |
38 (2%) |
43 (3%) |
64 (4%) |
68 (4%) |
|
Rhugl |
97 (6%) |
106 (7%) |
86 (5%) |
96 (6%) |
101 (6%) |
114 (7%) |
103 (6%) |
117 7%) |
|
Dim data |
206 (12%) |
188 (11%) |
208 (12%) |
190 (11%) |
206 (12%) |
188 (11%) |
206 (12%) |
188 (11%) |
Newid yn y canran o siaradwyr Cymraeg rhwng adroddiad 2023-24 ac adroddiad 2024-25 o ran sgiliau siarad Cymraeg:
Staff gweinyddol
|
Lefel |
2023-24 |
2024-25 |
|
Rhugl |
171 (8%) |
166 (9%) |
|
Eithaf da |
88 (4%) |
81 (4%) |
|
Ychydig |
747 (35%) |
717 (38%) |
Staff academaidd
|
Lefel |
2023-24 |
2024-25 |
|
Rhugl |
101 (6%) |
114 (7%) |
|
Eithaf da |
38 (2%) |
43 (3%) |
|
Ychydig |
365 (21%) |
387 (23%) |
- Mae'r data yn ymwneud â nifer y staff yn seiliedig ar gyfrif pennau (yn hytrach na nifer y staff cyfwerth ag amser llawn) ac mae'n cynnwys staff craidd a staff a ariennir yn allanol.
- Cymerwyd y data ar ddyddiad penodol (31 Gorffennaf 2025), ac felly mae’n cynnwys nifer o staff a oedd yn y broses o adael y Brifysgol ar delerau diswyddo gwirfoddol (ond a oedd, yn dechnegol, yn dal i gael eu cyflogi ar 31 Gorffennaf 2025).
- Mae data staff academaidd yn cynnwys yr holl staff academaidd, ymchwilwyr a thiwtoriaid.
8. Cwynion
Mae Prifysgol Abertawe yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r Gymraeg yn y Brifysgol. Mae Gweithdrefn Gwyno y Gymraeg ar gael ar wefan y Brifysgol.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ystod y cyfnod dan sylw.
9. Hyfforddiant
Yn ogystal â’r modiwl ymwybyddiaeth newydd sydd wedi’i gwblhau gan 21% o staff hyd yn hyn, mae Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg yn cynnig cwrs awr-o-hyd “Cymraeg sylfaenol” i staff y Brifysgol sy’n cyflwyno geiriau ac ymadroddion Cymraeg cyffredin, a hanfodion ynganu. Yn ystod 2024-25, cwblhaodd 33 aelod staff y cwrs hwn.
Y tu hwnt i’r cwrs Cymraeg Sylfaenol, manteisir ar y berthynas agos gydag Uned Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe i ddarparu cyrsiau ar bob lefel i staff, ac i fyfyrwyr mewn rhai achosion. Ceir amlinelliad isod o’r ddarpariaeth oedd ar gael yn ystod y cyfnod dan sylw.
- Cyrsiau yn y Gweithle
Darparwyd y cwrs canlynol ar gyfer staff:
|
Math o gwrs |
Oriau Dysgu |
Wedi cwblhau |
|
Cwrs Cyfarch (cyffredinol) – Staff |
Cwrs 10 awr |
5 |
|
Gofal Iechyd - Staff |
Cwrs 10 awr |
1 |
Darparwyd y cyrsiau canlynol ar gyfer myfyrwyr:
|
Math o gwrs
|
Oriau Dysgu |
Wedi cwblhau |
|
Cyrsiau Meddygaeth
|
Cwrs 12 awr |
30 |
|
Cyrsiau TAR
|
Cwrs 35 awr |
104 |
|
Cyrsiau Gofal Iechyd – Myfyrwyr
|
Sesiynau Blasu 1 neu 2 awr |
248
|
|
Cyfanswm |
|
382 |
Ar gyfer 2024-25 roedd Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi dynodi bod angen i fyfyrwyr cyrsiau Gofal Iechyd gael asesiad o’u sgiliau Cymraeg. Felly, i ddechrau, aseswyd y myfyrwyr trwy gwblhau holiadur, ac yna asesiad manylach gyda myfyrwyr rhugl wyneb yn wyneb neu drwy asesiad ar-lein.
Cwblhaodd 481 yr holiadur cychwynol gyda 446 (96%) yn cwblhau’r asesiad cyflawn.
Yn 24/25, cynhaliwyd sesiwn Cymraeg yn benodol i fyfyrwyr sy'n astudio BSc Gwyddonydd Gofal Iechyd ble gwyliodd y myfyrwyr ymgynghoriad rhwng clinigwr a claf yn Gymraeg. Ar ôl iddynt ystyried faint oeddent yn deall roedd y myfyrwyr wedyn yn cael y cynnig i aros a chofrestru am wersi Cymraeg gan Ganolfan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, gyda'r sesiwn gyntaf yn digwydd yn y fan a'r lle. Mae trafodaethau wedi dechrau rhwng ein tiwtor Dysgu Cymraeg ac AaGIG ynghylch datblygu asesiad digidol ar gyfer y Gymraeg all gael ei mewngorffori i bortffolio swyddogol myfyrwyr sy'n astudio cwrs sydd wedi cael ei gomisiynu gan AaGIG.
- Cyrsiau Cynllun Cymraeg Gwaith Addysg Uwch
Cyllidir y cynllun gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac fe’i gweinyddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad ag Academi Hywel Teifi, gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn darparu cyrsiau i’r niferoedd canlynol:
|
|
Wedi cyflawni’n rhannol |
Wedi cwblhau |
|
Mynediad |
40 |
18 |
|
Sylfaen |
16 |
10 |
|
Canolradd |
12 |
8 |
|
Uwch |
12 |
11 |
|
Hyfedredd |
7 |
5 |
|
Cyfanswm |
87 |
52 |
Nod y cyrsiau yw cefnogi staff academaidd, neu academaidd-gysylltiedig i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg y gallant eu rhoi ar waith o fewn cyd-destun addysgiadol.
Y tu hwnt i’r sesiynau swyddogol, caiff sesiynau ymwybyddiaeth ac iaith hefyd eu cynnal mewn modd llai ffurfiol yn ôl y galw, a chynhelir sesiynau cymdeithasol yn y Gymraeg yn achlysurol i staff sy’n siarad Cymraeg ar bob lefel.
10. Recriwtio Staff
Wrth greu swydd newydd neu lenwi swydd wag, cynhelir asesiad o’r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer y swydd honno.
Dyma amlinelliad o’r swyddi a hysbysebwyd yn ystod y cyfnod, ynghyd â’r sgiliau Cymraeg:
|
Cyfanswm y swyddi a gafodd eu hysbysebu yn ystod y cyfnod dan sylw |
914 (1631 yn 23/24) (-44% ers 23/24) |
|
Cyfanswm y swyddi a gafodd eu llenwi yn ystod y cyfnod dan sylw |
671 (1571 yn 23/24) (-57% ers 23/24) |
|
|
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 3’ (rhugl) a gafodd eu hysbysebu |
19 swydd, sef 2% o’r cyfanswm (25/1.5%) yn 23/24) |
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 3’ (rhugl) a gafodd eu llenwi |
14 swydd, sef 2% o’r cyfanswm (24/1.5% yn 23/24) |
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 2’ (eithaf da) a gafodd eu hysbysebu |
9, sef 1% o’r cyfanswm (21/1% yn 23/24) |
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 2’ (eithaf da) a gafodd eu llenwi |
5 sef 1% o’r cyfanswm (21/1% yn 23/24) |
|
|
|
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 1’ (ychydig) a gafodd eu hysbysebu |
886 sef 96% o’r cyfanswm (1583/97% yn 23/24) |
|
Cyfanswm y swyddi ‘Cymraeg lefel 1’ (ychydig) a gafodd eu llenwi |
652 sef 97% o’r cyfanswm (1524/97% yn 23/24) |
11. Crynodeb
Yn ystod y flwyddyn dan sylw, cafodd y Brifysgol gyfle i ddangos ei hymrwymiad parhaus i’r Gymraeg trwy sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg a hyrwyddo’r Gymraeg yn y Brifysgol ac yn y gymuned ehangach.
Yn ystod 2025-26, bydd Swyddog Polisi’r Gymraeg yn canolbwyntio’n bennaf ar:
- ymgorffori’r arfer dda a’r cyngor a ddaw gan Swyddfa’r Comisiynydd o ran penderfyniadau polisi a dulliau cyd-reoleiddio.
- addasu’r drefn adnabod lefelau sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer swyddi newydd gan gyflwyno fframwaith CEFR i’r broses ac unrhyw arfer dda arall a gynghorir gan Swyddfa’r Comisiynydd.
- parhau i gynghori a chefnogi gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol wrth iddynt gyflwyno’r addasiadau i’w trefn gwasanaeth a’u prosesau a sicrhau bod hawliau siaradwyr Cymraeg yn ganolog.
12. Manylion Cyswllt
Mae rhagor o wybodaeth am ymrwymiad y Brifysgol i’r Gymraeg ar gael ar y dudalen ganlynol: https://www.abertawe.ac.uk/safonaur-Gymraeg
Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddog Polisi a Chydymffurfiaeth y Gymraeg: cydymffurfiaeth@abertawe.ac.uk neu n.e.besley@abertawe.ac.uk
Cyhoeddir yr adroddiad hwn yn unol â Safonau 166, 172 a 178.