HYFFORDDI’R GENHEDLAETH NESAF O WYDDONWYR CYMDEITHASOL BLAENLLAW

Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (PHD)  y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Cymru yn hyfforddi’r gwyddonwyr gorau ledled Cymru a Lloegr ar ystod o faterion sy’n cael effaith ar gymdeithas heddiw.  Mae’n bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Swydd Gaerloyw a Phrifysgol Caerdydd (y prif sefydliad).

Mae’n datblygu ac yn cryfhau cofnod o bartneriaethau cydweithredol hyfforddiant doethurol ym maes y gwyddorau cymdeithasol ledled Cymru a Lloegr – mae’r PHD a’i rhagflaenydd, Canolfan Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru, wedi cynnig oddeutu 50 o ysgoloriaethau ôl-ddoethurol newydd bob blwyddyn ers 2011.

Mae’r PHD yn paratoi myfyrwyr doethurol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol drwy gynnig rhaglen o hyfforddi sgiliau, cyfleoedd ymdrochi a mynediad at ymchwilwyr blaenllaw ar draws prifysgolion.  Mae hyn yn galluogi ei myfyrwyr doethurol i fynd i’r afael â heriau hanfodol a newid y ffordd y mae’r gymdeithas, yr amgylchedd a’r economi’n gweithio.  

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae myfyrwyr PHD hefyd yn elwa ar ddigwyddiadau rhwydweithio rheolaidd, cylchlythyr lleol, cynrychiolwyr myfyrwyr ar y ddau gampws a thîm cyflawni pwrpasol yn Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe.  Mae’r tîm cyflawni hwn yn cynnig cymorth ac arweiniad am ystod eang o ymholiadau, gan gynnwys recriwtio, derbyn myfyrwyr, cyllid, cynnydd, datblygu sgiliau a mwy.  

Mae PHD ESRC Cymru yn recriwtio myfyrwyr mewn dwy ffordd:  yr Alwad Gydweithredol, lle gallwch wneud cais am brosiectau a bennwyd eisoes sy’n cynnwys partneriaid anacademaidd;  yr Alwad Gyffredinol, lle gallwch ddatblygu eich cynnig eich hun am ysgoloriaeth PhD. 

Trwy eu hysgoloriaethau cydweithredol, gall sefydliadau cyhoeddus, preifat neu yn y trydydd sector noddi prosiect ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol a chael rôl wrth greu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw. Mae ysgoloriaethau cydweithredol a gynhelir gan Brifysgol Abertawe yn cynnwys partneriaid megis yr NSPCC, y GIG, y Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol (RUSI), Llywodraeth Cymru, Parc Cenedlaethol  Bannau Brycheiniog, Dŵr Cymru, Oxford University Press a’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol.

Mae Prifysgol Abertawe’n cynnal y llwybrau canlynol:

  • Dwyieithrwydd
  • Troseddeg
  • Gwyddor Data, Iechyd a Lles
  • Economi a Chymdeithas Ddigidol
  • Economeg
  • Astudiaethau Empirig yn y Gyfraith
  • Daearyddiaeth Ddynol
  • Ieithyddiaeth
  • Rheoli a Busnes
  • Seicoleg
  • Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff