Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir Prifysgol Talaith Iowa yn Ames, canol Iowa, ychydig dros hanner awr i ffwrdd o Des Moines, prifddinas y dalaith. Mewn pleidlais, enwyd Ames yn un o'r trefi coleg gorau yn yr UD, a'r brifysgol yw'r un fwyaf yn nhalaith Iowa.  Hon hefyd yw'r unig brifysgol yn yr UD sydd â labordai ymchwil Adran Ynni'r UD ar y campws.

Mae'r brifysgol yn cynnal llu o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ac mae digon o draddodiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys cefnogi'r 'Cyclones' a'u masgot 'Cy the Cardinal'. Fel arfer, mae llety ar gael i fyfyrwyr ar y campws ac mae hyn yn cynnig cyfle ardderchog i chi ymgolli'n llwyr ym mywyd a gweithgareddau'r campws. Gallwch gymryd rhan mewn sefydliadau i fyfyrwyr fel papur newydd yr ysgol, radio, teledu neu hyd yn oed fywyd Groegaidd.

Gallwch ddisgwyl profi pedwar tymor gwahanol gyda hafau cynnes a gaeafau oer iawn gydag eira, felly gwnewch yn siŵr bod gennych ddillad ar gyfer pob achlysur.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Stori Myfyriwr

Myfyriwr gyda baner