Cloc a tŵr uchel ar y campws gyda golygfeydd hyfryd ar draws y tir

Prifysgol ymchwil gyhoeddus yw Prifysgol Talaith Efrog Newydd yn Buffalo, gyda champysau yn Buffalo ac Amherst, Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau. Dros yr 16 o flynyddoedd diwethaf, mae Prifysgol Buffalo wedi bod ymysg 25 o sefydliadau gorau’r DU sy’n derbyn nifer uchaf y myfyrwyr rhyngwladol. Mae Buffalo ac Amherst yn llai na 30 munud o raeadrau eiconig Niagara. Buffalo yw’r ail ddinas fwyaf yn nhalaith Efrog Newydd ac mae’n gartref i dros 50 o orielau celf preifat a chyhoeddus, yn enwedig Oriel Gelf Albright-Knox a Chanolfan Gelf Burchfield-Penney. Mae bwydwyd Buffalo’n cynnig amrywiaeth o flasau y mae diwylliannau ledled y byd wedi dylanwadu arnynt, gan gynnwys bwyd Eidalaidd, Gwyddelig, Iddewig, Almaenig, Pwylaidd, Americanaidd-Affricanaidd, Americanaidd, Groegaidd, Tsieineaidd, Japaneaidd, Coreaidd, Fietnamaidd, Thai, Mecsicanaidd, Arabaidd, Indiaidd, Myanmar, Caribïaidd, bwyd enaid a Ffrengig. Bydd rhywbeth i’ch dant ar bob cornel.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.