Ffynnon ac adeiladau ar y campws

Prifysgol ymchwil gyhoeddus yw Prifysgol Albany, a elwir hefyd yn SUNY Albany, yn Nhalaith Efrog Newydd, gyda champysau yn Albany, Rensselaer a Guilderland. Mae’r brifysgol yn cynnwys dwy lyfrgell fawr; gyda’i gilydd, maent yn cynnig mwy na dwy filiwn o gyfrolau ac maent ymysg y 100 o lyfrgelloedd ymchwil gorau yn yr UD. Dyfarnwyd y brifysgol fel y 51fed orau ar gyfer myfyrwyr sy’n dod o’r tu allan i’r dalaith ac, yn ôl y cyhoeddiad, mae’n “nodedig am ei chyfuniad o academyddion arobryn a’i chostau fforddiadwy”. Lleolir Albany ar lan orllewinol afon Hudson, llai na 3 awr o Ddinas Efrog Newydd a Boston, felly mae llawer o gyfleoedd ar gyfer gwibdeithiau dros y penwythnos. Pan na fyddwch chi'n teithio oddi ar y campws, mae bywyd campws gwych yma gyda digonedd o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a gallwch gefnogi'r 'Great Danes' drwy wisgo'u lliwiau - porffor ac aur. Peidiwch ag anghofio ymweld â chanolfan y celfyddydau perfformio a'r amgueddfa gelf tra'ch bod yno, byddwch chi wrth eich bodd ar y campws amrywiol hwn.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.