Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Prifysgol ymchwil gyhoeddus yw Prifysgol Maryland, yn Sir Baltimore (UMBC), sy’n arbenigo yn y gwyddorau naturiol a pheirianneg, ynghyd â rhaglenni yn y celfyddydau rhyddfrydol a’r gwyddorau cymdeithasol. Baltimore yw’r ddinas fwyaf ym Maryland, a’r 30ain ddinas fwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau. Ci adar Bae Chesapeake o’r enw “True Grit” yw masgot y Brifysgol. Adwaenir y masgot mewn gwisg fel arall fel “Fever the Retriever” yn y 1990au hwyr ac roedd hyd yn oed gan y Brifysgol fasgot byw ar un adeg, o’r enw Campus Sam. Wedi’u hysbrydoli gan fasgot yr ysgol, gelwir timau chwaraeon yr ysgol hefyd yn “Retrievers” ac maent yn gwisgo’r lliwiau du ac aur. Mae Prifysgol Baltimore wedi’i hamgylchynu bron yn gyfan gwbl gan Sir Baltimore ond mae’n annibynnol arni’n wleidyddol. Mae’r ddinas yn gartref i Ysbyty Johns Hopkins, llawer o fwytai, grwpiau theatrau a marchnadoedd ffermwyr. Ymddangosodd y bwytai lleol, Charleston, Woodberry Kitchen a phopty Charm City Cakes unwaith ar raglen Ace of Cakes y sianel deledu Food Network ac, yn 2015, enillodd Baltimore yr ail safle mewn rhestr o’r 17 o ddinasoedd gorau am fwyd yn y wlad. Mae dinas Baltimore, yn ogystal â’i chyffiniau, yn gartref i dafodiaith leol unigryw a dyma’r unig le yn America lle gallwch ganfod “arabbers” o hyd, sef gwerthwyr ffrwythau a llysiau ffres sy’n masnachu o gart a dynnir gan geffyl drwy strydoedd y gymdogaeth.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.