Golygfa dros ddinas Houston gyda'r nos

Prifysgol ymchwil daleithiol a sefydliad blaenllaw yw Prifysgol Houston ac mae ei champws yn cynnwys 667 o erwau yn ne-ddwyrain Houston, Tecsas. Mae Prifysgol Houston yn enwog am ei chorff myfyrwyr amrywiol ac fe’i dyfernir gan News & World Report yr UD fel yr ail brifysgol ymchwil fwyaf amrywiol o ran ethnig yn yr UD. Mae’r brifysgol mewn metropolis fawr sydd â chymuned ryngwladol gynyddol. Yn lleol, gallwch ymweld â Gorsaf Ofod Houston sy’n cynnig arddangosfeydd rhyngweithiol a grëwyd gan NASA; dyma’r rheswm dros lysenwi Houston yn “Ddinas y Gofod”. Hefyd, gallwch ymweld ag Amgueddfa’r Celfyddydau Cain sy’n arddangos gwaith arlunwyr argraffiadol enwog a rhai’r Dadeni, a’r Theater District sy’n cynnig 17 bloc o fwytai, canolfannau siopau, parciau, tafarnau a cherddoriaeth fyw.  Mae gan Brifysgol Houston fwy na 400 o sefydliadau myfyrwyr ac 17 o dimau chwaraeon rhyng-golegol; Mae tîm golff y dynion wedi ennill 16 o bencampwriaethau cenedlaethol – sef y nifer uchaf yn hanes yr NCAA.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Stori Myfyriwr

Stadiwm chwaraeon fawr