Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Prifysgol gyhoeddus yw Prifysgol Gogledd Wilmington yn Wilmington, Gogledd Carolina. Mae ei hagosrwydd at Fôr yr Iwerydd yn denu llawer o fyfyrwyr rhyngwladol; mae’r brifysgol yn cynnig graddau ym meysydd y Dyniaethau, y gwyddorau, iechyd, busnes a materion proffesiynol. Mae rhaglen wyddoniaeth uchel ei bri’r brifysgol yn denu amrywiaeth o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Yn 2000, agorwyd Canolfan Hamdden y Myfyrwyr sy’n cynnwys tri chwrt pêl fasged, peiriannau ymarfer corff, ardal hyfforddi gyda phwysau, trac rhedeg dan do a wal ddringo dan do. Hefyd, mae’n cynnwys ystafell ymarfer i grwpiau sy’n cefnogi llawer o glybiau a gweithgareddau, gan gynnwys ioga, pilates a chlwb aikido. Yn gyffredinol, ceir gaeafau mwyn a hafau llaith iawn yn Wilmington, a gellir bwrw glaw ar unrhyw adeg drwy gydol y flwyddyn. Oherwydd agosrwydd y môr twym, sef Môr yr Iwerydd, tueddir i gael corwyntoedd neu stormydd trofannol yn Wilmington, yn bennaf o fis Awst i ddechrau mis Hydref , a digwyddir hyn unwaith bob saith mlynedd ar gyfartaledd. Mae Wilmington yn cynnal llawer o wyliau blynyddol, gan gynnwys yr un enwocaf, Gŵyl Azalea. Mae Gŵyl Azalea yn cynnwys taith o erddi, taith o dai hanesyddol, parti gardd, perfformiadau cerddorol, gorymdaith a sioe tân gwyllt.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.