Myfyrwyr yn sefyll mewn cae yn gwneud siap NAU

Prifysgol ymchwil uwch gyhoeddus yw Prifysgol Gogledd Arizona (NAU), a leolir wrth draed copâu San Francisco yn Flagstaff, Arizona. Mae gan Brifysgol Gogledd Arizona, sydd wedi’i dyfarnu’n 3ydd yn ôl rhestr USA Today o’r trefi prifysgolion gorau, 21 o neuaddau preswyl ar gampws Flagstaff ac mae’n canolbwyntio ar anghenion myfyrwyr yn y lle cyntaf, sy’n adlewyrchu ei chymhareb myfyrwyr:staff o 18:1. Mae Flagstaff yn cynnig amgylchedd delfrydol a golygfaol i fyw a dysgu ynddo, gyda hinsawdd pedwar tymor a thirweddau dynamig, byddwch yn darganfod anturiaethau awyr agored hollol unigryw yn Arizona. 1.5 awr yn unig o’r Hafn Fawr, mae gan Flagstaff boblogaeth o 67,400 o bobl a cheir 288 o ddiwrnodau heulog a 100 o fodfeddi o eira’n flynyddol. Yn lleol, gallwch ymweld ag Arsyllfa Lowell, Arizona Snowball, Cyfadeilad Chwaraeon Dŵr a Thenis, sy’n un o gyfleusterau nofio ar uchder gorau’r byd. Os nad oes gennych ddiddordeb mewn byrddio eira na syllu ar y sêr, gallwch fwynhau 50 o filltiroedd o draciau rhedeg a llwybrau heicio a beicio mynydd ar System Llwybrau Trefol Flagstaff. Mae timau chwaraeon y coleg, a adwaenir fel y Lumberjacks, yn cystadlu ar lefel Cynghrair I yr NCAA ym mhob math o chwaraeon.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Stori Myfyriwr

Myfyriwr gyda baner Prifysgol Abertawe