Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir Prifysgol Linköping yn Sweden ac mae’n daith ychydig dros 2 awr  o Stockholm mewn car. Mae’n debygol y bydd gaeafau hir, oer, gyda thymereddau’n aros ychydig dros y rhewbwynt yn ystod y dydd, a hafau byr, twym. Mae’r brifysgol yn ymfalchïo yn ei gwaith yn y meysydd meddygaeth, hyfforddi athrawon, busnes ac economeg, ac mae’n cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr rhyngwladol astudio mewn amgylchedd ysgogol, rhyngddisgyblaethol. Nid oes gan y brifysgol ei llety ei hun ond gallai gyfeirio myfyrwyr at ddarparwyr.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.