Myfyrwyr yn astudio gyda'i gilydd

Lleolir y brifysgol yn Christchurch ar ynys ddeheuol Seland Newydd. Mae'r hafau yn Christchurch yn fwyn a'r gaeafau braidd yn oer gyda rhywfaint o eira a glaw rheolaidd. Prifysgol Canterbury yw un o'r prifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw yn Seland Newydd. Mae digon i'w wneud y tu hwnt i'r campws gydag ardaloedd sgïo awr i ffwrdd a thraethau a mynyddoedd i'w darganfod. Mae llety ar gael ar y campws i fyfyrwyr cyfnewid.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.