Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir Universidad de Granada yn ninas Granada, prifddinas daleithiol ganolig ei maint yn rhanbarth Andalucía yn ne Sbaen.  Mae gan Granada hinsawdd Môr y Canoldir, gyda rhywfaint o law neu ychydig bach o law yn disgyn, yn bennaf yn yr hydref a'r gaeaf. Mae Granada yn ddinas brifysgol fodern a diogel mewn lleoliad daearyddol eithriadol, 40 munud o arfordir Môr y Canoldir a 30 munud o gyrchfan sgïo Sierra Nevada. Mae Granada yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden fel sgïo, mynydda, heicio, dringo a chwaraeon dŵr fel caiacio, sgïo dŵr a bordhwylio felly mae digon o bethau i fyfyrwyr gymryd rhan ynddynt. Gallant hefyd elwa ar yr amrywiaeth ddiwylliannol a'r golygfeydd arbennig yn yr ardal. Gall y Swyddfa Rheoli Llety roi cyngor i fyfyrwyr ynghylch eu hopsiynau, sy'n cynnwys neuaddau preswyl y brifysgol, fflatiau i'w rhannu gyda myfyrwyr eraill neu leoedd gyda theuluoedd lleol.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.