Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Pusan yw ail ddinas fwyaf Corea ac fe’i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad. Gall yr hafau fod yn boeth ac yn llaith ond maent yn amlach yn fwy oer oherwydd awelon y môr. Gall y ddinas hefyd brofi teiffwnau. Mae’r gaeafau’n oer, gyda 5 niwrnod o eira y flwyddyn ar gyfartaledd. Mae PNU yn brif sefydliad ymchwil ac mae’n un o’r prifysgolion gorau yng Nghorea. Mae PNU yn cynnig llety ar y campws ac mae’r pris yn cynnwys prydau bwyd.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.