Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir Ysgol Fusnes Montpellier ym Montpellier yn rhanbarth Occitaine de-orllewin Ffrainc felly byddwch yn mwynhau hinsawdd Ganoldirol – sy'n golygu hafau poeth a gaeafau oer! Mae'r ddinas gosmopolitaidd hon, sy'n addas i fyfyrwyr, mewn lleoliad delfrydol. Mae'n berffaith o ran archwilio dinasoedd eraill yn ne Ffrainc megis Marseille, Nice a Cannes; fe'i lleolir ychydig oriau o gyrchfannau sgïo ac mae Paris a Barcelona 3 awr i ffwrdd. Mae gan Montpellier, sy'n cynnig amgylchedd cyfoethog o ran chwaraeon a diwylliant, dimau pêl-droed, rygbi a phêl law proffesiynol o'r safon orau, a cheir llawer o ddigwyddiadau diwylliannol ac amgueddfeydd lle gall myfyrwyr ddarganfod gweithiau artistig o Ffrainc a thramor. Mae Ysgol Fusnes Montpellier wedi derbyn achrediad gan y tri chorff nodedig, AACSB, EFMD-EPAS ac AMBA, i gydnabod ei hansawdd academaidd, sy'n ei gwneud hi’n ddewis ardderchog i fyfyrwyr rheoli cyfnewid. Mae gan y Brifysgol ei llwyfan tai ei hun a gallwch gyflwyno cais unwaith eich bod wedi cael eich derbyn.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.