Myfyrwyr yn astudio gyda'i gilydd

Lleolir Université d’Angers yn rhanbarth Anjou yn Ffrainc, i'r gogledd-orllewin o Ddyffryn Loire. Mae Angers yn hawdd ei chyrraedd – 45 munud ar drên o Nantes ac awr a hanner ar drên o Baris – ac mae wedi'i lleoli'n berffaith ar gyfer darganfod ardaloedd eraill yn Ffrainc. Dinas myfyrwyr yn bennaf yw Angers ac mae'n cynnig bywyd nos Ffrengig nodweddiadol, strydoedd hanesyddol a chyfleoedd siopa heb eu hail. Mae amrywiaeth eang o lety ar gael i fyfyrwyr cyfnewid, o neuaddau preswyl ar y campws i fflatiau preifat. Nifer cyfyngedig o ystafelloedd sydd ar gael ar y campws, felly caiff myfyrwyr eu hannog i wneud cais cyn gynted â phosibl. Serch hynny, mae digon o lety ar gael yn y ddinas.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.