Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Grande École Ffrainc (sefydliad addysg uwch mawr ei fri) yw'r Sefydliad Rheoli a Chyfathrebu Rhyngddiwylliannol (ISIT), sy'n adnabyddus am gyfathrebu a chyfieithu mewnol, gan ei wneud yn ddewis arbennig i fyfyrwyr cyfieithu cyfnewid. Wedi'i leoli ym Mharis, sef prifddinas gosmopolitaidd Ffrainc ac un o ddinasoedd mwyaf Ewrop, mae hinsawdd arforol gyda gaeafau oer a hafau twym oherwydd ei leoliad yng ngorllewin Ewrop. Mae'r Sefydliad Rheoli a Chyfathrebu Rhyngddiwylliannol yn aelod gweithredol o nifer o rwydweithiau rhyngwladol ac mae'n meithrin perthnasoedd agos â sefydliadau rhyngwladol mawr, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig a'r Comisiwn Ewropeaidd. Gall y Sefydliad Rheoli a Chyfathrebu Rhyngddiwylliannol roi awgrymiadau i fyfyrwyr ynghylch dod o hyd i lety ac mae myfyrwyr yn elwa o fynediad diogel, penodol ac am ddim i lwyfan tai i fyfyrwyr.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.