Myfyrwyr yn astudio gyda'i gilydd

Innsbruck yw prifddinas daleithiol Tyrol, Awstria. Mae ei lleoliad, nid nepell o Munich a gogledd yr Eidal, yn golygu ei bod yn gyrchfan alpaidd heb ei ail - y cyrchfan sgïo mwyaf yn yr Alpau i unrhyw sgïwyr brwdfrydig! Ymhlith y chwaraeon a'r gweithgareddau hamdden eraill sydd ar gael yn ardal brydferth Innsbruck mae mynydda, heicio, rafftio a nofio. Mae lleoliad mewndirol Innsbruck a'i huchder yn creu hinsawdd gyfandirol, sy'n golygu gaeafau oer â digon o eira a hafau cynnes. Mae Prifysgol Innsbruck yn chwarae rôl amlwg fel sefydliad addysg ac ymchwil o fewn y system addysg uwch Ewropeaidd. Caiff myfyrwyr eu hannog i wneud cais am lety cyn gynted â phosibl oherwydd gall fod yn fwy anodd dod o hyd i lety oddi ar y campws.