Mae gallu teithio i ben draw'r byd fel rhan o'ch gradd ym Mhrifysgol Abertawe yn gyfle heb ei ail. Mae Awstralia yn gartref i tua phum miliwn o bobl ac mae tua 80% ohonynt yn byw ar yr arfordir dwyreiniol. Gan fod Awstralia wedi'i lleoli yn hemisffer y de mae mis Mehefin tan fis Awst yn fisoedd y gaeaf a mis Rhagfyr tan fis Chwefror yn fisoedd yr haf. Y gaeaf yw'r tymor sych yn y trofannau, a'r haf yw'r tymor gwlyb. Prin fod angen dweud bod Oz yn gyrchfan arbennig i fyfyrwyr dreulio blwyddyn yn astudio, yn teithio ac yn cyfarfod â phobl newydd.

Caiff Prifysgol Abertawe ei phartneru â'r canlynol: