Ysgol Haf SDU

Students in front of university

Ysgol Haf SDU

Ymunwch â myfyrwyr sy'n hanu o fwy na 40 gwlad am Ysgol Haf ryngwladol ddwys a fydd yn para pythefnos yn rhithwir ym mis Awst. Byddwch yn profi ymagwedd y Daniaid at addysgu ac yn ymdrochi yn iaith a diwylliant Denmarc yr haf hwn!

Beth mae'n cynnwys?

  • Pythefnos o addysgu yn y maes pwnc o'ch dewis
  • Dewis o restr gynhwysfawr o gyrsiau ym maes Peirianneg, Gwyddoniaeth a Busnes
  • Dysgu mewn grŵp bach
  • Gweithgareddau cymdeithasol rhithwir

Sut Gallaf Gyflwyno Cais?

Mae cyllid yn gyfyngedig a chaiff ei ddyfarnu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae myfyrwyr israddedig presennol Prifysgol Abertawe yn gymwys i ymgeisio.Gall myfyrwyr ôl-raddedig gyflwyno cais am gyllid hefyd, ond mae'n rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth bod eu goruchwyliwr academaidd yn cymeradwyo eu cyfranogiad.

  1. Cyflwyno cais am gyllid Ewch yn Fyd-eang drwy ddefnyddio un ffurflen syml:
    Lawrlwythwch y Ffurflen Gais am Gyllid Haf Rhithwir 2021 a'i dychwelyd drwy e-bost i a.harry@abertawe.ac.uk. Yna byddwn ni'n gwirio eich cymhwysedd ac yn cadarnhau a fyddwch yn derbyn cyllid. Fel rhan o hyn, byddwn ni'n gwirio'n awtomatig a ydych chi'n gymwys i dderbyn y cyllid Ehangu Cyfranogiad. Bydd lefel y cyllid a ddyfernir yn dibynnu ar gost eich rhaglen. Nid ariennir rhaglenni yn llawn. Bydd y tîm Ewch yn Fyd-eang yn cadarnhau eich cymhwysedd ac yn anfon Cytundeb Cyfranogiad atoch i'w lofnodi.
  2. Cyflwyno cais i'r rhaglen haf rithwir o'ch dewis:
    Cyflwynwch gais i'r rhaglen o'ch dewis yn uniongyrchol. Bydd arnom angen cadarnhad eich bod wedi'ch derbyn ar y cwrs.

Dechrau eich rhaglen:
Ni fyddwn yn prosesu’r cyllid tan inni dderbyn tystiolaeth eich bod wedi'ch derbyn a'ch cofrestru, ac ar ôl i ddarparwr eich rhaglen lofnodi ein ffurflen Cadarnhau Dechrau. Sylwer bod hyn yn golygu y byddwch yn derbyn eich cyllid ar ôl i’ch rhaglen ddechrau. Meddyliwch am hyn wrth ichi gyllidebu.