Lake Wolfgang

Cynhelir Ysgol Haf Prifysgol Vienna bob blwyddyn. Lleolir yr ysgol haf ym mhentref hardd Strobl yn rhanbarth Salzkammergut, sy'n un o ardaloedd gwyliau haf mwyaf deniadol Awstria. Mae myfyrwyr yn aros mewn ystafelloedd sengl a dwbl o safon uchel ar gampws haf hyfryd y rhaglen ar lan Llyn Wolfgang.

Mae rhaglen Astudiaethau Ewropeaidd 4 wythnos y Sommerhochschule yn cynnwys dwy sesiwn bythefnos o hyd. Cynigir chwe chwrs Astudiaethau Ewropeaidd yn ystod y sesiwn gyntaf a chwe chwrs yn ystod yr ail sesiwn. Gallwch chi ddewis o gyrsiau yn y Gyfraith, gwleidyddiaeth, economeg, hanes, astudiaethau diwylliannol ac Almaeneg.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Sommerhochschule Prifysgol Vienna.