Mae ysgol haf Prifysgol UAB Barcelona 2024 yn cynnig mwy na 25 o bynciau mewn amrywiaeth o feysydd sy'n cynnwys:

  • Gwyddorau 
  • Y Biowyddorau
  • Gwyddorau iechyd
  • Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  • Y Gwyddorau Cymdeithasol a Chyfreithiol
  • Peirianneg

Cynigir 2 sesiwn ysgol haf i chi ddewis ohonynt:

  • Cynhelir Sesiwn 1 rhwng 25 Mehefin ac 12 Gorffennaf 2024
  • Cynhelir Sesiwn 2 rhwng 15 Gorffennaf a 2 Awst 2024

Gallwch chi ddewis un cwrs sy'n werth 6 chredyd ECTS na fydd yn cael eu trosglwyddo i Brifysgol Abertawe.

Cynigir pris 20% yn llai ar sail y cyntaf i'r felin i'r rhai hynny sy'n cofrestru erbyn 15 Mai 2024 a byddwn yn eich annog chi i gymryd mantais o'r gostyngiad hwn.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalennau gwe haf UAB