students sitting in a group in Sri Lanka

Mae Travelteer ar flaen y gad ym myd teithio'n gyfrifol a gwirfoddoli'n foesegol. Ar ôl i'w sefydlwyr gael profiad personol o'r effaith gadarnhaol y gall gwirfoddoli ei chael ar gymunedau lleol, mae'r sefydliad wedi llunio amrywiaeth o raglenni elusennol sy'n defnyddio setiau sgiliau gwirfoddolwyr i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae ei athroniaeth yn cyfuno antur llawn ysbrydoliaeth â gwirfoddoli sy'n creu effaith fawr wrth gynnal amgylchedd diogel a chymdeithasol. Mae'r prosiectau i gyd yn cefnogi Travelteer Impact (ei elusen), lle bydd pob un geiniog o gyllid myfyrwyr yn ariannu prosiectau yn Sri Lanka a Nepal.

Mae cyllid ar gael ar gyfer y rhaglenni canlynol a gynhelir gan Travelteer yn Sri Lanka:

  • Rhaglen Datblygu Saesneg - Mae'r rhaglen yn gweithio'n agos gydag ysgolion yn Sri Lanka i greu prosiectau cynaliadwy sy'n darparu dyfodol mwy disglair i blant yn y gymuned leol drwy arloesi addysgu ac ystafelloedd dosbarth. Bydd gwirfoddolwyr yn cynorthwyo ac yn arwain gwersi yn yr ystafell ddosbarth, gan gefnogi disgyblion i wella eu Saesneg, gan ddatblygu sgiliau allweddol megis siarad, darllen ac ysgrifennu. https://travelteer.co.uk/programmes/english-development
  • Rhaglen Datblygu Chwaraeon– bydd gwirfoddolwyr yn gweithio ar ‘lefel llawr gwlad’ - Ein nod yw datgloi potensial plant sydd o dan anfantais drwy ddarparu hyfforddwyr gwirfoddol sydd â sgiliau a chyllid ar gyfer cyfarpar a chyfleusterau. Mae'r rhaglen yn darparu profiad ymarferol i wirfoddolwyr gynllunio a chynnig eu sesiynau chwaraeon eu hunain mewn gwlad sy'n datblygu. Mae ein prosiectau'n canolbwyntio ar gynwysoldeb a dysgu sgiliau i hyrwyddo iechyd a lles drwy ddysgu campau gwahanol!https://travelteer.co.uk/programmes/sports-development 
  • Rhaglen Cadwraeth Forol a Bywyd Gwyllt– mae hon yn cyfuno llawer o raglenni llai gyda'r nod o helpu i adsefydlu a chadw amgylchedd a bywyd y môr yn Sri Lanka. Gallwch chi helpu i ailblannu'r goedwig law, adsefydlu crwbanod môr a gweithio yn eu hysbyty i anifeiliaid gwyllt a mwy!https://travelteer.co.uk/programmes/marine-wildlife-conservation 
  • Rhaglen Tecstilau a Dylunio– nod y rhaglen hon yw hyfforddi ac addysgu menywod lleol mewn sgiliau a thechnegau tecstilau. Mae yna gyfle i wirfoddolwyr ddylunio, datblygu a chreu mathau newydd o gynnyrch i Travelteer.https://travelteer.co.uk/programmes/textile-design 

Sylwer, nid oes cyllid ar gael ar gyfer lleoliadau Meddygol Dewisol neu Nyrsio nac ar gyfer rhaglenni Iechyd Meddwl neu Ofal Iechyd.

Yn ogystal â chostau'r rhaglen, mae angen i'r holl gyfranogwyr godi o leiaf £75 yr wythnos ar gyfer pob wythnos y byddant yn gwirfoddoli. Mae angen i wirfoddolwyr sy'n ymgymryd â lleoliad pedair wythnos neu fwy godi o leiaf uchafswm o £300 o bunnoedd. Mae'r arian a godir yn galluogi Travelteer i brynu cyfarpar a datblygu'r rhaglenni ymhellach. Mae 100% o'r arian a godir yn mynd yn uniongyrchol i'r rhaglen rydych chi’n gwirfoddoli arni. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://travelteer.co.uk/fundraising 

Os ydych chi’n barod i gyflwyno cais am y rhaglen, cwblhewch ein ffurflen gais am fwrsariaeth yma.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses gyflwyno cais yn y gwymplen isod. 

students on a mountain
students in a classroom
Students in forest
turtles on a beach