Myfyrwyr ar cwch

Mae Think Pacific yn cynnig prosiectau gwirfoddoli arobryn i fyfyrwyr yn Fiji. Gallwch chi weld Fiji drwy lygaid brodorol a byw yng nghanol pentref Ffijïaidd anghysbell. Gallwch chi wneud ffrindiau ac atgofion gydol oes wrth ennill profiad byd-eang a datblygu sgiliau unigryw. Byddwch chi'n gweithio ochr yn ochr â chymunedau a phobl ifanc Ffijïaidd ar fentrau lleol sy'n cyflawni canlyniadau arloesol ar y cyd â llywodraeth Ffiji.

Mewn amrantiad...

  • Teithiau gwirfoddoli ac interniaethau ystyrlon i dimau yn ynysoedd Ffiji.
  • Mewn partneriaeth â Llywodraeth Ffiji.
  • Gallwch chi ymgolli'n llwyr mewn diwylliant pentref gwledig.
  • Byddwch chi'n byw gyda theulu traddodiadol Ffijïaidd.
  • Gallwch chi weithio ar fentrau Ieuenctid, Adeiladu, Cadwraeth, Chwaraeon, Iechyd neu Arweinyddiaeth.
  • Byddwch chi'n datblygu sgiliau cyflogadwyedd, yn cwrdd â phobl sydd o'r un meddylfryd â chi ac yn gwneud cyfraniad.
  • Mae'r prosiect yn cynnwys: bwyd, llety, cymorth 24/7 yn y wlad, anturiaethau dros y penwythnos, teithio domestig, rhodd i elusen. (Nid yw hyn yn cynnwys costau hedfan).

Os ydych chi’n barod i gyflwyno cais am y rhaglen, cwblhewch ein ffurflen gais am fwrsariaeth yma. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses gyflwyno cais yn y gwymplen isod.