Mae gwersylloedd haf yn UDA yn rhan fawr o ddiwylliant Americanaidd ac mae'n draddodiadol i blant fynd i wersyll bob blwyddyn. Mae miloedd o wersylloedd haf ledled yr Unol Daleithiau. Mae pob un ohonynt yn cynnig profiad unigryw a bydd yn addas at fathau gwahanol o wersyllwyr. Er bod gwersylloedd haf yn draddodiad hynod Americanaidd, mae'r rhan fwyaf o wersylloedd yn hoffi cyflogi staff sy'n dod o bob cwr o'r byd. Mae gwersylloedd yn defnyddio Camp America i ddod o hyd i'r staff rhyngwladol gorau oll sy'n gallu dod â'u diwylliannau a'u traddodiadau eu hunain i UDA!

Beth gallaf  ddisgwyl ei ennill o weithio mewn gwersyll haf?

Mae gweithio mewn gwersyll haf yn America yn cynnig llawer mwy na swydd yn unig - mae'n brofiad unigryw ac mae'r buddion yn ddiddiwedd. Byddwch chi'n gweithio mewn gwersyll am o leiaf 9 wythnos (sef hyd arferol lleoliad)

Ffrindiau newydd! - mae'r perthnasoedd cryf sy’n cael eu meithrin ymhlith staff y gwersyll yn golygu eich bod fel teulu! Byddwch yn dibynnu ar eich gilydd, yn gweithio'n galed gyda'ch gilydd, yn chwerthin gyda'ch gilydd, yn dysgu gyda'ch gilydd ac, yn y pen draw, byddwch yn rhannu'r haf gyda'ch gilydd. Heb os nac oni bai, bydd amrywiaeth o bersonoliaethau, cefndiroedd a chenhedloedd yn cyfoethogi'r gwersyll; fodd bynnag, byddwch gennych chi i gyd un peth yn gyffredin sef yr awydd am y math hwn o brofiad!

Sgiliau cyflogadwyedd! - mae gweithio mewn gwersyll haf yn wych oherwydd byddwch chi'n treulio haf anhygoel yn gwneud rhywbeth sy'n hwyl ac yn gyffrous ond byddwch chi hefyd yn gwella'ch rhagolygon ar yr un pryd! Cydnabyddir Camp America gan gyflogwyr a sefydliadau academaidd ledled y byd, felly bydd hwn yn ychwanegiad gwych at eich CV ac yn denu sylw atoch chi fel ymgeisydd. Bydd yn dangos bod gennych chi'r cymhelliad i wneud rhywbeth gwahanol yn ystod eich haf ond bydd hefyd yn dangos eich bod yn annibynnol, yn gyfrifol ac yn uchelgeisiol. Mae'r gwersyll yn eich galluogi chi i fod yn fodel rôl, yn arweinydd ac yn aelod o dîm - heb i chi sylwi o bosib!

Mae manylion llawn am y rhaglen ar gael yn https://www.campamerica.co.uk/ 

Gweler amodau a thelerau llawn Camp America ar-lein yn: https://www.campamerica.co.uk/help/terms-and-conditions 

I weld amrywiaeth eang o Gwestiynau Cyffredin, ewch i: https://www.campamerica.co.uk/help/faqs 

Os ydych chi’n barod i gyflwyno cais am y rhaglen, cwblhewch ein ffurflen gais am fwrsariaeth yma. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses gyflwyno cais yn y gwymplen isod.