Sut all eich llyfrgellwyr pwnc eich cefnogi chi?

 

Cymerwch gip olwg ar ein canllawiau ar-lein, tiwtorialau, sesiynau galw heibio, neu sgwrsio byw Holi Llyfrgellydd - maent i gyd ar gael trwy'r Canllawiau Llyfrgell ar gyfer eich pwnc, isod.

Mae gan bob Coleg a disgyblaeth Dîm Llyfrgell personol ei hun i gefnogi anghenion gwybodaeth eu myfyrwyr, staff ac ymchwilwyr. Mae gan bob tîm pwnc ei set ei hun o Ganllawiau Llyfrgell. Yn y Canllawiau hyn mae cymorth a chyngor ar ddefnyddio'r llyfrgell i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniadau, traethodau a phrosiectau.

  • Dod o hyd i e-lyfrau ac e-gyfnodolion ar gyfer cael defnyddio gwybodaeth testun llawn ar unwaith
  • Chwilio cronfeydd data llyfryddol ar gyfer arolwg llenyddiaeth gynhwysfawr
  • Dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy ar y we
  • Cael cyngor ar sut i gyfeirio eich ffynonellau ac osgoi llên-ladrad

 

Yn bwysicaf oll, fe gewch fanylion cyswllt eich tîm pwnc, i gysylltu â nhw pan fyddwch angen cymorth un i un i ddiwallu eich anghenion gwybodaeth.

Rhaglen Sgiliau Llyfrgell