Hollingdale: Y Dyn a'i Gyfieithiadau o Athroniaeth

Yn ystod ei fywyd, nid oedd Friedrich Nietzsche (1844-1900) yn adnabyddus iawn; fodd bynnag, ers hynny mae wedi dod yn un o athronwyr enwocaf yr ugeinfed ganrif, y mae ei syniadau wedi dylanwadu ar waith Thomas Mann, Samuel Beckett a Martin Heidegger. Gan adlewyrchu'r twf hwn yn ei boblogrwydd ac yn y diddordeb ynddo, mae'r ysgolheigion a'r cyfieithwyr a oedd yn awyddus i sicrhau bod ei waith ar gael i'r byd nad yw'n siarad Almaeneg yn ddi-rif. Serch hynny, mae Reginald John Hollingdale (1930-2001) yn flaenllaw yn eu plith ac mae ei gyfieithiadau nodedig yn uchel eu parch. Er ei fod fwyaf adnabyddus am  ei waith am Nietzsche, sy'n cynnwys bywgraffiadur gwreiddiol (Nietzsche: The Man and his Philisiophy) a chanllaw astudio, roedd Hollingdale hefyd yn cyfansoddi traethodau ysgolheigaidd, yn traddodi darlithoedd ac yn ysgrifennu straeon byrion; bu'n gweithio fel newyddiadurwr i The Guardianac yn cyfieithu gwaith gan Theodor Fontane, Johann Wolfgang von Goethe ac Wolfe Lepenies. Ar ôl ei farwolaeth yn 2001, etifeddodd ei deulu gasgliad trefnus dros ben o wahanol ddrafftiau o'i waith, yn ogystal â chasgliad yr un mor drefnus o ohebiaeth. Erbyn hyn, mae'r papurau hyn yn rhan o Archifau Richard Burton  Prifysgol Abertawe ac, yn haf 2015, cefais y dasg o gynorthwyo wrth gatalogio'r casgliad.

Dechreuais gyda'r llawysgrifau, a roddodd gyfle i mi ddarllen rhannau o'r cyfieithiadau, cyflwyniadau Hollingdale a'i stori fer, Montemo in Gondola. Drwy ddarllen ei waith, dechreuodd syniad o'i bersonoliaeth ffurfio yn fy mhen, yn seiliedig ar ei ddewis o eiriau a'i ffordd o lunio arsylwad: byreiriog, digrif, sych. Er enghraifft, yn ei gyflwyniad i Before the Storm, nofel gan Fontane, lle, yn ôl Hollingdale:  ‘the action contained in a six week period is divided into no fewer than 81 chapters’, mae'n dweud: ‘until the final quarter of the book, there is hardly any action – so little, indeed, that when so trivial an incident as the nocturnal break-in at a manor house at Hohen-Vietz occurs in the 31st chapter the author entitles the chapter “something happens”’ (Hollingdale 1985) sylw a ysgogodd chwerthin tawel o'm cornel i o'r ystafell ddarllen. Cadarnhawyd y llun hwn a oedd yn dechrau datblygu gan ei ohebiaeth. Mae maint y casgliad hwn yn dangos ei drylwyredd eithriadol gan ei fod wedi cadw bron pob llythyr a dderbyniodd ers 1977, yn ogystal â chopïau o'r rhai yn ei law ef. Drwy ddidoli a chatalogio llythyrau i/oddi wrth gyhoeddwyr, ffrindiau, cydweithwyr, ei gyn-wraig a'i ddau blentyn, rhoddwyd cnawd ar esgyrn y ffigur academaidd i greu darlun o'r dyn. Yr agwedd hon ar y broses a oedd fwyaf diddorol i mi. Fel myfyriwr sy'n canolbwyntio ar 'gyffesu' yn ei ymchwil, daeth y syniad i'm meddwl mai ffurf casgliad Hollingdale (wedi'i ffeilio mewn bocsys, pob un â rhif a mynegai) oedd y rheswm ei fod yn ddarllenadwy: hynny yw, nid yw'r papurau hyn yn gasgliad o loffion bywyd na fwriadwyd iddo erioed gael ei weld; darnau o jig-so iddynt y bwriadwyd iddynt gael eu gweld a'u dehongli gan eraill.

I ysgolheigion â diddordeb academaidd mewn cyfieithu, mae'r casgliad yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar y broses oddrychol a chreadigol iawn hon. Yn ei gasgliad o lyfrau, ceir sawl argraffiad cyfyngedig, gan gynnwys llyfr o 15 cyfieithiad Saesneg o Zarathustra's Roundelay sy'n caniatáu i'r darllenydd gymharu'r addasiadau Saesneg amrywiol o'r un darn. Ceir nifer o lythyrau hefyd lle mae Hollingdale yn cyfiawnhaur ffordd mae wedi cyfieithu gair, yn amlinellu ei farn ynghylch yr hyn sy'n gwneud cyfieithiad da ac yn amddiffyn ei arddull unigryw. Mewn un llythyr trawiadol sy'n pwysleisio teimladau Hollingdale am arddull unigryw cyfieithydd, mae'n mynnu na ddylai ei enw ymddangos ar argraffiad Penguin ym 1999 o The Interpretation of Dreams gan Sigmund Freud am y rheswm hwn: er gwaethaf ei waith sylweddol ar y testun hwn ni ellid priodoli’r gwaith iddo ef bellach oherwydd y diwygiadau.

Fel academydd sy'n gweithio ar y casgliad hwn, rwy'n rhyfeddu ar ei gyflawnrwydd a gallaf werthfawrogi'r potensial mae'n ei gynnig ar gyfer ymchwil gwreiddiol. Serch hynny, fel person, fe'm gadawyd â theimladau cymysg bod cymaint o fywyd Reginald Hollingdale wedi'i fyw fel hyn, oherwydd yr agwedd ar ei fywyd a'i gwnaeth fwyaf annwyl i mi oedd y tad cariadlon a oedd wastad yn cael ei rwygo rhwng ei waith pwysig ac uchel ei barch, a'r teulu yr oedd yn ei garu'n fawr ac yr oedd fel petai'n hiraethu amdanynt.

Ysgrifennwyd y testun uchod gan Katie, a gynorthwyodd wrth gatalogio casgliad Hollingdale.