Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn adnodd ymchwil o bwys rhyngwladol. Mae'r casgliad yn darparu darlun unigryw o fywyd yng nghymoedd y maes glo ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio ar y gweithwyr a'r sefydliadau a grëwyd ganddynt. Mae'n cynnwys cofnodion undebau llafur, sefydliadau glowyr, cymdeithasau cydweithredol ac unigolion a oedd yn ymwneud â'r gymuned lofaol.

  • Cedwir deunydd archifol (megis llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol, gohebiaeth etc) a ffotograffau yn Archifau Richard Burton
  • Cedwir deunydd cyhoeddedig, deunydd clyweled, deunydd sain a baneri yn Llyfrgell Glowyr De Cymru
Photograph of Ammanford colliers and workmen standing in a group in front of coal trucks, c1900

Mae deunydd yn yr archifau yn ymwneud ag:

  • Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo (Ardal De Cymru) a'i ragflaenydd, Ffederasiwn Glowyr De Cymru
  • Cyfrinfeydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr - o Abercraf i Ynysgedwyn
  • Cymdeithasau llesiant a chymdeithasau cyfeillgar, gan gynnwys cronfeydd trallod, ysbytai gweithwyr, sefydliadau gweithwyr a sefydliadau eraill megis Undeb Dewi Sant yr Iforiaid
  • Cymdeithasau Cydweithredol - o Aberdâr i Ynysybwl
  • Cynghorau Masnach a Phleidiau Gwleidyddol
  • Casgliadau personol dros 150 o unigolion a oedd yn gysylltiedig â Maes Glo De Cymru
  • Undebau llafur eraill

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys casgliad sylweddol o ffotograffau.

Sefydlwyd y Casgliad ym 1969 at ddiben diogelu cofnodion dogfennol cymuned lofaol de Cymru. Ar y pryd, roedd dros gant o byllau glo wedi'u cau ers gwladoli’r diwydiant, roedd rhagor o byllau dan fygythiad ac roedd perygl y byddai cofnodion o'r fath yn cael eu dinistrio. Yn ffodus, roedd swyddogion Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru) yn ymwybodol o'r broblem a dechreusant drosglwyddo eu cofnodion hanesyddol i Lyfrgell Coleg Prifysgol Abertawe, gan annog cyfrinfeydd yr Undeb i wneud yr un peth.

Ym 1971 sefydlwyd Prosiect Hanes Maes Glo De Cymru, wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol, er mwyn dod o hyd i lawysgrifau a deunydd argraffedig o bwys archifol a'u casglu. Roedd y prosiect, a barhaodd tan 1974, mor llwyddiannus y gynhaliwyd ail brosiect rhwng 1979 a 1982. Casglwyd swm sylweddol iawn o ddeunydd archif gan gyfrinfeydd a sefydliadau glowyr, cymdeithasau cydweithredol ac unigolion. Agwedd arall ar y prosiect oedd recordio cyfweliadau â phobl a oedd yn ymwneud â'r gymuned lofaol.