Mae gan Almaeneg enw da hir sefydledig a phum aelod o staff, gan gynnwys dau siaradwr brodorol: Yr Athro Tom Cheesman, Ms. Christiane Günther, Dr Brigid Haines, Ms Ute Keller-Jenkins a yr Athro Julian Preece. Mae Almaeneg ar gael ar ddwy raglen BA anrhydedd sengl (BA Ieithoedd Modern a BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd) ac amrywiaeth o gyfuniadau Cydanrhydedd, naill ai ar lefel ôl-Safon Uwch neu lefel Dechreuwyr.

Ar y BA Ieithoedd Modern, gallwch naill ai astudio Almaeneg yn unig (yr hyn a oedd yn cael ei alw'n Almaeneg anrhydedd sengl) neu mewn cyfuniad â Ffrangeg, Eidaleg, Arabeg, Mandarin neu Sbaeneg. Gallwch ddewis o blith opsiynau sy'n cynnwys Song Cultures, German Cinema since the Millennium, Power and the Personal, Berlin in the Twentieth Century, Improving your German with Poetry, ac Underground Vienna, yn ogystal â Chyfieithu ar y Pryd, y Gweithdy Cyfieithu ac, yn eich blwyddyn olaf, y traethawd hir. Mae gennym bartneriaethau gyda'r prifysgolion canlynol yn yr Almaen, lle gallwch dreulio eich blwyddyn dramor: Augsburg, Bamberg, Mannheim, Regensburg, a Würzburg. Gallwch hefyd weithio fel Cynorthwy-ydd Iaith y Cyngor Prydeinig neu ymgymryd â lleoliad gwaith. Mae BA Ieithoedd Modern yn cynnig cwricwlwm eang gyda thri llwybr mewn Diwylliant, Addysg a Chyfieithu.

Ar y cynllun BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, gallwch astudio Almaeneg ynghyd ag iaith arall a modiwlau arbenigol megis Computer-Assisted Translation Tools a Concepts in Translation. Mae'n rhaid i chi rannu eich blwyddyn dramor, gan ymarfer Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd rhwng dwy iaith ac mewn dau sefydliad o'r rhestr o'n partneriaid urddasol. Yn achos Almaeneg, mae'r rheini yn Cologne, Innsbruck, Mainz a Zurich.

Gallwch arbenigo mewn Almaeneg ar y graddau MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd a Chyfieithu Proffesiynol MA Cyfieithu Proffesiynol, sydd hefyd yn cynnig opsiynau interniaeth ac astudio dramor. Ar hyn o bryd, mae gennym ddau fyfyriwr ymchwil sy'n ysgrifennu prosiectau yng Nghanolfan Ymchwil i Ddiwylliant Almaenaidd Cyfoes (CCGC).

Rhannau o’r byd lle mae iaith Germanig yn iaith swyddogol

Dosbarth 2019

Myfyrwyr BA Almaeneg gyda staff, Mai 2019

Myfyrwyr BA Almaeneg gyda staff, Mai 2019