AmserSainFideo
00:00:00

Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu
Cynaliadwy Uwch) yn bartneriaeth rhwng pum prifysgol
sy’n Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, sy’n cael
ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol
Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.


Bydd tîm ASTUTE 2020 o academyddion o’r radd
flaenaf ac arbenigwyr technegol cymwys dros ben yn
cydweithio â diwydiant i roi sylw i heriau
gweithgynhyrchu a datblygu nwyddau a gwasanaethau
cynaliadwy, gwerth uwch ar gyfer y farchnad fyd-eang.

Cerddoriaeth offerynnol yn y cefndir.

Logo ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch).

Lluniau drôn o Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.

Logos Partneriaid ASTUTE 2020 sy’n Sefydliadau Addysg Uwch – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Prifysgol Abertawe, adeilad y Coleg Peirianneg yn arwain ymlaen i Swyddog Prosiect ASTUTE 2020 yn edrych ar sgrîn cyfrifiadur gydag efelychiadau modelu cyfrifiadurol arno.

Swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn edrych i lawr microsgop a robot Kuka diwydiannol yn symud o gwmpas mewn dilyniant. 

00:00:31 Helô! Fi yw Oliver Conger, Rheolwr Gyfarwyddwr a Pherchennog British Rototherm. Rydym ni’n gwmni
sydd wedi bodoli ers 170 o flynyddoedd, ac rydym ni’n
gweithgynhyrchu offer manwl gywir sy’n mesur tymheredd, gwasgedd, lefel a llif.

Cyflwyniad gan Oliver Conger, Rheolwr Gyfarwyddwr a Pherchennog British Rototherm Ltd., gyda darn o ffilm ohono’n sefyll rhwng baner ASTUTE 2020 a phoster  British Rototherm sy’n ymwneud â’r prosiect. 

Llun o fedrydd gwasgedd ager cyntaf y byd, a weithgynhyrchwyd gan British Rototherm yn 1847 a’r patent ar gyfer y medrydd gwasgedd ager hwn.

00:00:46 Fe glywais i am ASTUTE 2020 gan sefydliad o’r enw MAKE UK ac fe roddon nhw ni mewn cysylltiad â’r bobl gywir yn ASTUTE. Mae ganddyn nhw ddealltwriaeth dechnegol eithriadol o gryf, yn arbennig yng nghyswllt deinameg hylif gyfrifiadurol, oedd yn hollbwysig ar gyfer yr hyn roedden ni’n ceisio ei astudio fel rhan o’r rhaglen hon. 

Darn o ffilm yn dangos Oliver Conger yn disgrifio sut clywodd am ASTUTE 2020 a pham y bu iddo gysylltu â’r rhaglen.

Darn o ffilm yn dangos Oliver Conger a swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn sgwrsio wrth gerdded ar draws llawr y ffatri.

00:01:09 Y broblem roedden ni’n ceisio’i datrys oedd y sŵn sy’n dod allan o un o’n cydosodiadau agorfa cyfyngiad. Wrth i wasgedd lifo trwy un o’r dyfeisiau hyn a gostwng, mae’n creu sŵn, a gall y sŵn arwain hefyd at ddirgryniad a phroblemau posibl ar hyd gweddill y biblinell. Does dim byd ar gael ar gyfer platiau agorfa cyfyngiad, felly roedden ni am sicrhau model profedig y gallen ni ei ddefnyddio wedyn i ddylunio cynnyrch gwell.

Darn o ffilm yn dangos Oliver Conger yn disgrifio her weithgynhyrchu British Rototherm.

Llun o’r gostyngwr gwasgedd, yn symud ymlaen i ddarn o ffilm yn dangos poster British Rototherm sy’n ymwneud â’r prosiect gydag ASTUTE 2020 a deunyddiau hyrwyddo eraill British Rototherm sydd ar hyd waliau’r ffatri.

00:01:37 Felly, o ran ASTUTE, fe ddaethon nhw i mewn, ac fe rannon ni’r broblem yn nifer o wahanol gamau, ac ar y cyd â’n tîm ein hunain, fe lunion ni gynllun prosiect fyddai’n golygu ein bod ni’n medru cynnig model a’i brofi ar gyfer y platiau agorfa cyfyngiad.

Darn o ffilm yn dangos Oliver Conger yn disgrifio’r camau cychwynnol a gymerwyd gan dîm ASTUTE 2020 a thîm British Rototherm.

Darn o ffilm yn dangos darn o gyfarpar a ddefnyddiwyd ar gyfer y llwyfan profi.

Darn o ffilm yn dangos dau aelod o staff British Rototherm ar lawr y ffatri, cyn symud ymlaen at un o’r aelodau staff yn defnyddio peiriant.

00:01:57 Ac felly beth wnaeth ASTUTE yn y diwedd oedd ein helpu i ddarparu’r model, ac yna cafodd y model hwnnw ei brofi trwy feddalwedd CFD eithaf soffistigedig. Roedd y platiau agorfa roedden ni’n eu gwerthu nawr wedi’u dylunio ar fformwla profedig ar gyfer sŵn, sy’n unigryw yn y byd, ac o hynny fe lwyddon ni fynd at ein cwsmeriaid a phrofi iddyn nhw bod ein dyluniad yn gallu bodloni’r gofynion o ran sŵn.

Darn o ffilm yn dangos Oliver Conger yn disgrifio’r gefnogaeth a gafwyd gan dîm ASTUTE 2020 yn ystod y prosiect, gan gynnwys eu harbenigedd technegol a chanlyniadau’r cydweithio.

Darn o ffilm yn dangos staff British Rototherm ar lawr y ffatri.

Darn o ffilm yn dangos efelychiadau deinameg hylif gyfrifiadurol (CFD).

Darn o ffilm yn dangos rhai o’r offer a’r rhannau mae British Rototherm yn eu gweithgynhyrchu.

Darn o ffilm yn dangos y gwahanol fathau o beiriannau yn ffatri British Rototherm.

00:02:29 Mae hyn wedi arwain at lwyddo i sicrhau nifer o brosiectau sylweddol ar draws y byd, ac rydyn ni hefyd wedi gallu cyflogi 5 person arall yn y cwmni, a buddsoddi mewn peiriannau ychwanegol fydd yn sicrhau ein bod ni’n wir yn arweinydd yn y maes.

Darn o ffilm yn dangos Oliver Conger yn disgrifio’r manteision pellach sydd wedi deillio o gydweithio ag ASTUTE 2020.

Darn o ffilm yn dangos cyfarpar yn y ffatri.

Darn o ffilm yn dangos staff British Rototherm wrth eu gorsafoedd gwaith yn rhoi rhannau at ei gilydd.

00:02:47 Y rheswm dros weithio gydag ASTUTE 2020, felly, yw bod ganddyn nhw gryn dipyn o allu technegol, a mynediad at raglenni, meddalwedd ac adnoddau sydd ddim gan gwmni fel Rototherm. Maen nhw’n gallu helpu drwy ennyn hyder i symud ymlaen gyda rhywbeth lle na fyddech chi wedi mentro.

Darn o ffilm yn dangos Oliver Conger yn esbonio’r rhesymau dros weithio gydag ASTUTE 2020.

Llun o faner British Rototherm yn y ffatri.

Darn o ffilm yn dangos offer a weithgynhyrchwyd gan British Rototherm.

00:03:07 Felly ers i ni gwblhau’r prosiect, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda rhaglen M2A, felly mae gennym ni fyfyriwr yma am bedair blynedd. Mae gennym ni fodel profedig ar gyfer cyfrifo sŵn trwy un o’n dyfeisiau, ac mae hynny wedi golygu ein bod ni bellach yn cynnig am brosiectau, gan arwain atom ni’n ennill yr archeb fwyaf erioed am y math penodol hwn o gynnyrch, o Fietnam, felly mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Darn o ffilm yn dangos Oliver Conger yn disgrifio beth sydd wedi digwydd ers y prosiect, gan gynnwys canlyniadau cadarnhaol y cydweithio.

Darn o ffilm yn dangos wal lle ceir lluniau o staff British Rototherm a lluniau ‘o’r blaen’ a ‘nawr’ o’r ffatri i ddarlunio sut mae pethau wedi gwella yn ystod ‘Taith ddiwastraff’ y cwmni. 

Llun o’r plac a dderbyniodd British Rototherm am gyrraedd Rownd Derfynol y Wobr Gweithgynhyrchu ar Waith. Cawsant eu henwebu i gyrraedd rownd derfynol y Wobr Gweithgynhyrchu ar Waith gan Wobrau Manufacturer MX, mewn partneriaeth â Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol.

00.03.29 Cerddoriaeth offerynnol

Logos partneriaid ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo ASTUTE 2020 a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dolen i wefan ASTUTE 2020.