Trawsgrifiad: Three-Sixty Aquaculture Ltd.

AmserSainFideo
00:00:00

Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch) yn bartneriaeth rhwng sawl prifysgol sef pum Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, a ariannir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Lluniwyd ASTUTE 2020 i sbarduno twf yn y sector gweithgynhyrchu ledled Cymru, trwy gymhwyso technolegau peirianneg uwch i heriau gweithgynhyrchu, a sbarduno ymchwil, datblygu ac arloesedd blaengar.

Cerddoriaeth offerynnol yn y cefndir.

Logo ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch).

Lluniau drôn o Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.

Logos Sefydliadau Partner Addysg Uwch ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Cyfres o luniau o Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, a’i leoliad ger y traeth.

Adeilad Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yn arwain ymlaen at Swyddog Prosiect ASTUTE 2020 yn edrych ar sgrîn cyfrifiadur sydd ag efelychiadau modelu cyfrifiadurol arni. 

Swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn edrych i lawr  meicrosgop a robot diwydiannol Kuka yn symud o gwmpas mewn dilyniant.

00:00:32

Fy enw i yw Lee Tanner, a fi yw Prif Swyddog Technoleg Dyframaethu 360 - Three-Sixty Aquaculture Limited.

Cewch hyd i ni lawr ar Ddoc y Frenhines yn Abertawe. Rydyn ni’n dylunio, yn adeiladu ac yn gweithredu ffermydd pysgod ar y tir. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynhyrchu Perdys Coeswyn ar gyfer marchnad y Deyrnas Unedig. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn gweithio i arddangos y system yma – a bod modd tyfu Corgimychiaid Brenhinol o dan do ar y tir. Cyfnod nesaf y gwaith yma fydd ehangu i darged o 1000 o dunelli.

Mae logo Dyframaethu 360 Aquaculture i’w weld ar sgrîn. 

Mae Lee yn eistedd tu ôl i ddesg gyda dwy faner godi â brand ASTUTE arnyn nhw y tu ôl iddo yn y cefndir.

Siot ongl lydan yn dangos Doc y Frenhines, Abertawe. Ardal eang o ddŵr llonydd gyda jetis, craeniau, tyrbinau gwynt a warysau ar hyd-ddi.

Mae’r camera’n dilyn Lee i lawr coridor i’r ddeorfa lle ceir hyd i’r tanciau perdys.
0:01:04

Mae’r holl Gorgimychiaid Brenhinol sy’n dod i’r Deyrnas Unedig yn cael eu ffermio yn Asia mewn pyllau awyr agored. Yn fras, mae rhyw 23,000 tunnell yn dod i’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Mae hynny i gyd yn cael ei goginio a’i rewi yn y ffynhonnell, ei gludo yma ar long, ac yn cymryd 45 diwrnod i gyrraedd.

Gallwn ni gynhyrchu’r rhain yn ffres o fewn cylch llawer mwy cyfyng, ac mae hynny’n llawer mwy cynaliadwy na’r hyn sy’n digwydd yn awr.

Siotiau agos a chanolig o Gorgimychiaid Brenhinol glas yn nofio yn y tanc. 

Siotiau o Ddoc y Frenhines yn dangos uned Dyframaethu 360 Aquaculture o’r dŵr. Mae’n warws mawr gyda thyrbin gwynt ar yr ochr dde.
00:01:25 Roedd gennym ni gysyniad dylunio ar gyfer ffermio perdys ar dir. Mae’n galw am ddeinameg hylif gyfrifiadurol i ddangos y bydd y ddamcaniaeth ar bapur yn gweithio mewn bywyd go iawn yn ogystal. 
Mae’r systemau hyn yn anhygoel o ddrud i’w hadeiladu ac yn dal i gael eu hystyried yn risg uchel. Roedden ni’n symud i ffwrdd oddi wrth hynny ac yn ceisio arloesi mwy. Mae’r gwaith wnaethon ni gyda thîm ASTUTE wedi golygu ein bod wedi gallu lleihau risg adeiladu rhywbeth sydd mor arloesol. 

Mae Lee yn arsylwi’r perdys. Mae’n sefyll ar blatfform sy’n golygu ei fod yn gallu edrych i lawr i mewn i’r tanc dwfn. 

Mae siotiau agos yn dangos y cyfarpar bwydo a hidlo sydd o amgylch y tanc. Mae’r cyfarpar yn gweithio i lanhau dŵr y tanc a bwydo’r perdys ar adegau rheolaidd a amserir. 

00:01:56

Buon ni’n edrych ar y sector preifat i gael atebion ar gyfer yr efelychiad roedden ni am ei gynnal, ond fe fethon ni â chael hyd i neb. A dyna pryd cwrddon ni â thîm ASTUTE.

Gyda’u mynediad at y feddalwedd a’u profiad o faes peirianneg roedd yn amlwg bod y cyfan yn mynd i syrthio i’w le ar ôl y cyfarfod cyntaf.

Siot dros ysgwydd Lee yn ei ddangos yn newid y gosodiadau ac yn cychwyn y broses hidlo o banel rheoli.

Siot agos o’r plac ERDF sy’n cael ei arddangos yn uned Dyframaethu 360 Aquaculture.

Gwelir Lee yn siarad â swyddogion prosiect ASTUTE yn ymyl y tanciau Perdys.
00:02:14 Darparodd 360 yr amodau gweithredu, dyluniadau a lluniadau CAD, er mwyn i ASTUTE fedru cynnal yr efelychiad. Yna adeiladodd ASTUTE y model CFD i redeg yr efelychiad er mwyn i ni fedru gwirio’r amodau gweithredu oedd yn ofynnol yn y tanc, er enghraifft cymysgu hydrolig a dosbarthiad ocsigen. 
Yna bwydwyd canlyniadau’r efelychiad yn ôl i ni, ac roedd modd i ni wneud addasiadau ar sail y data a gasglwyd o’r efelychiad. Ar hyd y broses fe gawson ni gyfarfodydd zoom, a byddai ASTUTE yn mynd â ni trwy’r dec sleidiau er mwyn i ni fedru gweld pa amrywiadau oedd yn dod i’r amlwg yn yr efelychiadau, a pha newidiadau byddai angen i ni eu gwneud ar gyfer yr un nesa. 
Ar y sgrîn mae efelychiad cyfrifiadurol yn rhagfynegi sut byddai porthiant perdys yn llifo yng ngherrynt y tanc. 

Dangosir y porthiant mewn coch ac fe’i gwelir yn cael ei ollwng i’r tanc ac yn chwyrlïo drwy’r dŵr.

Mae siotiau sy’n edrych i lawr ar y tanc yn dangos y perdys yn nofio mewn dŵr glas clir ac yn gorffwys ar waelod y tanc o dan unedau goleuo. 
00:02:57 Trwy gydweithio ag ASTUTE roedd modd i ni ddiogelu swyddi yn ystod pandemig COVID. Mae hynny wedi bod yn hanfodol o ran helpu gyda dyluniad ein tanciau a dilysu hynny, ac roedden ni wedyn mewn sefyllfa i godi arian i fynd ar ôl y cynllun a’i adeiladu, ar sail deinameg hylif gyfrifiadurol. 

Mae gennym ni system waith newydd, fwy effeithlon, ac rydyn ni wedi gallu ffeilio patent ar gyfer system fodiwlar newydd sy’n golygu bod modd i’r tanciau annibynnol fod yn llawer mwy na’r hyn sy’n bosib ar hyn o bryd.

Byddwn ni’n gallu darparu cyflenwad sefydlog, cynaliadwy o fwyd môr o safon uchel i farchnad y Deyrnas Unedig yn y cyfnod hwn o ansicrwydd yn sgîl y pandemig a Brexit. 

Dangosir Lee yn cael trafodaeth gyda Swyddog Prosiect ASTUTE ar blatfform yn ymyl y tanc.

Eir â ni drwodd i ail ystafell lle mae tanciau lluosog yn cael eu storio, yn ymyl un arall sydd ag offer bwydo glas uwchben. Mae’r tanciau’n wag, ond yn dangos sut  gallai cyfleuster Dyframaethu 360 Aquaculture edrych gyda chapasiti llawn.


Siotiau o amgylch y cyfleuster sy’n dangos darnau o gyfarpar, tiwbiau bwydo, a rhwydi. Gwelir Lee yn arllwys jwg o borthiant i mewn i uned fwydo las sy’n hongian o’r nenfwd uwchben y tanc. 

00:03:36

Fel cwmni rydyn ni wedi elwa’n fawr o’r profiad gawson ni gan dîm ASTUTE. Mae gweithio gydag ASTUTE wedi golygu bod modd i ni gyflymu’r gwaith Ymchwil a Datblygu na allen ni ei wneud yn fewnol. Rydyn ni wedi gallu gwneud mwy o arloesi, tyfu fel busnes, crynhoi mwy o arian, ac ehangu.

Arweiniodd hynny wedyn at arloesi pellach, a mynd â’r cwmni i lawr llwybr gwahanol, na fydden ni wedi gallu ei ddilyn, fwy na thebyg, heb brosiect ASTUTE. 

Mae Lee yn gyrru cwch bach allan i’r doc, ac yn gwisgo siaced achub bywyd oren.

 

Siotiau agos o berdys yn nofio yn y tanc dyframaethu.

Mae Lee yn eistedd mewn cadair gyda baner godi brand ASTUTE y tu ôl iddo. Mae ysgrifen Saesneg ar y llaw chwith, a Chymraeg ar y dde. 
00:04:05 Cerddoriaeth offerynnol

Logos partneriaid ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo ASTUTE 2020 a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dolen i wefan ASTUTE 2020.