Trawsgrifiad: Cintec International

AmserSainFideo
00:00:00

Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch) yn bartneriaeth rhwng prifysgolion, sef pum Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, a ariannir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Lluniwyd ASTUTE 2020 i sbarduno twf yn y sector gweithgynhyrchu ledled Cymru, trwy gymhwyso technolegau peirianneg uwch i heriau gweithgynhyrchu, a sbarduno ymchwil flaengar, datblygu ac arloesedd,

Cerddoriaeth offerynnol yn y cefndir.

Logo ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch).

Lluniau cychwynnol o Brif Adeilad Prifysgol Caerdydd.

Logos y Sefydliadau Addysg Uwch sy’n Bartneriaid yn ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Lluniau allanol o Brif Adeilad Prifysgol Caerdydd a’r Ysgol Peirianneg.

Prifysgol Caerdydd, adeilad yr Ysgol Peirianneg yn arwain at Swyddog Prosiect ASTUTE 2020 yn edrych ar sgrîn cyfrifiadurol gydag efelychiadau modelu cyfrifiadurol arni.

Swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn edrych i mewn i feicrosgop a robot diwydiannol Kuka yn symud o gwmpas mewn dilyniant.

00:00:32

Fi yw Peter James, perchennog Cintec International, sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd, De Cymru. 

System atgyfnerthu strwythurol unigryw yw Cintec, a ddefnyddir i atgyfnerthu strwythurau sy’n dadfeilio mewn modd cydnaws.

O’n canolfan yn Ne Cymru, rydym ni’n gweithgynhyrchu cynnyrch atgyfnerthu ac angori ar sail yr angen am bob cynnyrch unigol. Mae hyn yn cwmpasu pob math o gerrig a gwaith carreg, a hyd yn oed strwythurau concrid.

Fodd bynnag, mae’n cael ei ddefnyddio’n arbennig mewn strwythurau hanesyddol, waliau cynnal, henebion ac is-haenau gwan iawn. Mae wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer angori i’r ddaear, a hefyd o dan y dŵr, at ddibenion fel waliau harbwr.

Buon ni’n gweithio i gryfhau ac adfer integriti strwythurol Castell Windsor ar ôl y tân mawr yn 1992, yn cryfhau ac yn adfer y pyramid coch a phyramid y grisiau, ynghyd â 22 o fosgiau, temlau a strwythurau yn yr Aifft yn dilyn digwyddiad seismig yng Nghairo yn 1992.

Siot agos o wahanol elfennau eu cynnyrch angori. 

Siot o adroddiad Cintec ar y gwaith i adnewyddu ac adfer strwythur Pyramid y Grisiau, gyda llun o’r pyramid ar y clawr.  
00:01:29

Mae Cintec hefyd wedi datblygu cynnyrch angori penodol eraill ar gyfer cryfhau pontydd â bwâu cerrig, a dderbyniodd wobr arloesedd y Frenhines, ac sydd bellach yn cael ei ddefnyddio yn India yn ogystal.

Atgyfnerthu pontydd a chryfhau yn erbyn ffrwydron ar gyfer adeiladau allweddol i’w hamddiffyn rhag brawychwyr. 

Rwyf hefyd yn berchen ar gwmnïau annibynnol yn  America a Canada ac mae gen i asiantau ar draws y byd.

Siot o wobr y Frenhines am fenter ac arloesedd wedi’i fframio ar y wal yn Nhŷ Cintec.

Siotiau o ffotograffau wedi’u fframio o amrywiol adeiladau mae Cintec wedi gweithio arnyn nhw.

Siot o Wobr STEM Cymru am Fenter ac Arloesedd, wedi’i fframio ochr yn ochr â llun o Paul gyda’r wobr.
00:01:51

Yn dilyn trafodaethau gydag un o ymgynghorwyr Llywodraeth Cymru, fe wnaethon nhw awgrymu ein bod ni’n cysylltu ag ASTUTE 2020 i weld a fydden nhw’n gallu ein cefnogi â her weithgynhyrchu.

Roedden ni am estyn y defnydd o’n system angori, yn arbennig wrth roi cryfder ychwanegol i’r strwythur roedd angen i ni ganiatáu ar gyfer symud fel daeargrynfeydd, cymalau symud, ac amsugno ffrwydriad.

Roedd ein dyluniad cychwynnol yn rhy ddrud i’w weithgynhyrchu. Nid oedd y gosodiad yn fasnachol ddichonadwy oherwydd bod maint y twll oedd yn angenrheidiol i gynnwys y ddyfais yn ei wneud yn annichonadwy. Roedden ni am ddeall a oedd modd symleiddio’r dyluniad i ganfod proses weithgynhyrchu addas. 
Ffilm o Swyddog Prosiect ASTUTE 2020 yn gweithio ar fodelu cyfrifiadurol ar gyfer cynnyrch Cintec ym Mhrifysgol Caerdydd.
00:02:30

Daeth tîm ASTUTE i ymweld â’n dyluniad cychwynnol a defnyddio’u harbenigedd i fodelu, optimeiddio a datblygu’r ddyfais. Roedd hynny’n golygu bod modd i ni gydweithio i ddiffinio’r perfformiad oedd yn ofynnol i’r ddyfais, i ddethol y deunydd gweithgynhyrchu mwyaf addas, ac i optimeiddio’r dyluniad trwy fodelu cyfrifiadurol er mwyn sicrhau dadansoddiad cychwynnol gwell.

Bu’r gwaith ymchwil helaeth a wnaed gan ASTUTE a’r wybodaeth a’r arbenigedd a ddarparwyd gan Cintec o gymorth i sicrhau ein bod ni’n bodloni’r meini prawf perfformiad a dylunio gofynnol. 

Trwy’r trefniant cydweithio, bu modd i ni drawsffurfio unigrywiaeth y system angori, ac fe’n galluogwyd i ddatblygu perfformiad y ddyfais a’r broses weithgynhyrchu ymhellach. 

Siot agos o fodelu cyfrifiadurol ar sgrîn cyfrifiadur.

Ffilm o labordy profi Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys siotiau o aelod o’r tîm yn gweithio ar gyfrifiaduron ar y safle, ac o fecanwaith angori Cintec yn cael ei brofi mewn wal.

00:03:10

O ganlyniad i’r broses ddylunio a gweithgynhyrchu newydd rydym wedi cofrestru patent newydd a chyflogi aelod newydd o staff.

Bydd rhoi’r system angori ar waith yn llwyddiannus yn ehangu ein manteision masnachol ac yn darparu atebion mwy cost-effeithiol i ni o ran amddiffyn rhag daeargrynfeydd.

Rydym wrthi’n ymgysylltu â llawer o brosiectau peirianneg sifil mewn gwledydd sy’n debygol o ddioddef daeargrynfeydd ar draws y byd er mwyn diogelu strwythurau ac achub bywydau.

Rhagor o ffilm o’r tu mewn i’r cyfleuster profi yn dangos gwahanol brofion ffisegol a chyfrifiadurol yn cael eu cynnal gan aelod o’r tîm.

Ffilm yn dangos profion daeargryn ar gynnyrch angori Cintec mewn wal yn labordy profi Prifysgol Caerdydd.

Siot agos yn dangos y wal yn symud ac yn cracio o dan amodau’r prawf. 
00:03:34 Mae cyfleoedd fel y gefnogaeth a ddarparwyd gan ASTUTE 2020 yn dangos bod cyllid yr UE wedi bod yn hollbwysig i ranbarth Cymru, ac yn arbennig i’r sector gweithgynhyrchu. Mae’n ein hannog i fod yn flaengar ac i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael ledled Cymru.  Siot o’r cynnyrch angori y tu mewn i’r wal.
00:03:50

Mae ansawdd y gwaith a wnaed wedi bod o fudd aruthrol i’r cwmni. Rydym ni’n awyddus i ddatblygu’r ymchwil ymhellach gydag ASTUTE er mwyn ei dadansoddi ar gyfer cymwysiadau pellach. Mae effeithiolrwydd yn hanfodol bwysig, felly ein nod yw efelychu amgylcheddau realistig gyda’r dyluniadau newydd a blaenorol er mwyn gwirio’u gallu i gyflawni yn ôl y galw, a bydd eu perfformiad cymharol yn cael ei ddadansoddi. 

Gyda chefnogaeth rhaglenni sy’n cael eu hariannu gan yr UE, fel ASTUTE 2020, rydym wedi gallu gyrru ein galluoedd ymchwil a datblygu ymlaen o fewn y cwmni.

Rydym yn edrych ymlaen at brosiect dilynol gyda Phrifysgol Caerdydd a phrosiectau ar draws y byd.

Siot o brofion cryndod yn labordy Caerdydd lle bu’r tîm yn ail-greu amodau daeargryn i brofi effeithiolrwydd cynnyrch angori Cintec.

Ffilm agos o gynnyrch angori Cintec ar fwrdd yn ei gasyn amddiffynnol. 

00:04:31 Cerddoriaeth offerynnol

Logos partneriaid ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo ASTUTE 2020 a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dolen i wefan ASTUTE 2020.